Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , THOMAS ( 1625 - 1688 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ; g. yn y Pentre , Llanafanfawr , sir Frycheiniog . Cafodd addysg dda. Rhoes y dirprwywyr dystysgrif pregethwr iddo 16 Mai 1653 . Gofalodd am eglwys blwyf Maesymynys hyd 1662 . Bedyddiwr rhydd-gymunol ydoedd — dyna pam yr ymunodd ei ferch â Broadmead ac nid â'r Bedyddwyr Cyffredinol ym Mryste . Nid ef, fel y tybia Spinther ,’ eithr Thomas Evans , Dyffryn-ffrwd , aelod yn Llantrisant , oedd yng nghymanfa Aberafan ( 1654 ). Er ei garcharu yn Aberhonddu o dan Siarl II , a'i flino'n enbyd, aeth dau o'i fechgyn a llu o'i ddisgynyddion i'r weinidogaeth — y prifathrawon Hugh a Caleb Evans , Bryste , Dr. John Evans , Islington , etc. (gw. dan eu henwau). Bugeiliai ei breiddiau yn y Pentre a'r cylchoedd hyd ei f. yn 1688 .

Llyfryddiaeth:

  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru , 1893–1907 , ii, 431;
  • T. Richards , Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru ;
  • W. J. Rhys , Penodau yn Hanes y Bedyddwyr Cymreig , 1949 , 56, 57.

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert