EVANS
,
THOMAS
, neu
THOMAS ab IFAN
(
fl.
1596-1633
),
bardd a chopïydd llawysgrifau
.
Fel
Thomas
Evans
,
Hendreforfudd
, yr adweinir ef. Trefddegwm yn hen blwyf
Corwen
yw
Hendreforfudd
, ond yn awr gorwedd ym mhlwyf eglwysig
Llansantffraid Glyn Dyfrdwy
. Mab oedd ef i
Ifan ap Sion ap Robert Amhadog ap Siencyn ap Gruffudd ap Bleddyn
a
Lowri ferch Gruffudd ab Ifan ap Dafydd Ddu ap Tudur ab Ifan
ap Llywelyn ap Gruffudd ap Maredudd
ap Llywelyn ap Ynyr
. Ni wyddys fan na phryd ei eni na'i farw, ond yr oedd yn
copïo llawysgrifau
ac yn
prydyddu
o
1596 i 1633
. Ymddengys ei fod yn
grefftwr
ac iddo gael anaf a'i gadawodd yn
gloff
. Gallai
wneuthur deial a bwa crwth
. Yr oedd yn byw mewn tŷ a elwid yr
Erw Gau
, ac adeiladodd simnai gerrig yno yn
1615
. Claddwyd ei frodyr,
Robert ab Ifan
a
Rhys ab Ifan
, yn
Llansantffraid Glyn Dyfrdwy
, y cyntaf
26 Ebrill 1618
, a'r ail
28 Ebrill 1630
. Yr oedd ganddo hefyd frawd o'r enw
Sion ab Ifan
. Canodd farwnad
Simwnt Fychan
yn
1606
, gan ei alw yn ewythr ac yn
athro
. Daeth llawysgrifau
Roger
Morus
,
Coed-y-talwrn
, yn eiddo iddo cyn
1607
(e.e. llsgrau.
Llanst. 34
,
Most. 135
, ac
N.L.W. 1553
). Y gwaith cynharaf ganddo ef ei hun yw
calendr a manion astronomaidd
a gopïodd yn
1596
(
Pen. 187
). Yn ei lawysgrifau o waith y
beirdd
ceir cywyddau ac englynion ganddo ef ei hun, ac y mae ei waith wedi ei ddyddio yn weddol gyson ganddo. Ysgrifennwyd llsgr.
Caerdydd 12
rhwng
1600 a 1616
,
N.L.W. 1553
(sy'n cynnwys llawer o'i waith) rhwng
1604 a 1633
,
N.L.W. 253
(sydd hefyd yn cynnwys darn o'r
Llyfr Plygain
prin,
1618
) rhwng y flwyddyn honno a
1622
. Ysgrifennodd
N.L.W. 1554
, sy'n cynnwys casgliad sylweddol o achau, rhwng
1631 a 1633
. Yn
Llanst. 34
ychwanegodd, yn
1628
,
Fuchedd S. Margred
at gasgliad
Roger
Morus
o
Fucheddau'r Saint
. Efe oedd perchen
Pen. 157
, sy'n cynnwys gramadegau, ac ychwanegodd nodiadau ynddi. Yr oedd yn
englynwr
toreithiog ond nid oedd ei chwaeth bob amser yn uchel. Yr oedd ganddo o leiaf un mab,
Griffith
Thomas
.
Llyfryddiaeth:
- Gwybodaeth a grynhowyd o'r llsgrau. a nodwyd.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth