Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , THEOPHILUS ( 1693 - 1767 ), hanesydd a llenor ; bedyddiwyd yn eglwys plwyf Llandugwydd , 21 Chwefror 1693 , mab Charles Evans , Penywenallt , ger Castellnewydd Emlyn , o'i ail wraig, ac ŵyr i Evan Griffith Evans , ‘ Capten Tory ’ o fyddin Siarl I . Ni wyddys ymhle'r addysgwyd ef. Nid oes gofnod iddo fod yn ysgol ramadeg Amwythig na sicrwydd iddo fynychu ysgol ramadeg Caerfyrddin . Tybir na bu mewn prifysgol, canys yn 1714-6 yr oedd gartref ac yn Amwythig yn paratoi llyfrau i'r wasg . Urddwyd ef yn ddiacon , 14 Awst 1717 , ac yn offeiriad 9 Tachwedd 1718 , gan esgob Tyddewi , a chafodd guradiaethau Defynnog a Llanlleonfel yn sir Frycheiniog , dan Moses Williams [q.v.] . Ar 14 Awst 1722 cafodd ficeriaeth Llandyfrïog , ger Castellnewydd Emlyn . Ymddiswyddodd oddi yno 1728 , a chael rheithoraeth Llanynys gyda Llanddulas , sir Frycheiniog . Ymddiswyddodd yn 1738 a chael bywoliaeth Llangamarch , gan gynnwys Llanwrtyd ac Abergwesyn . Gwnaethpwyd ef yn gaplan teulu i Marmaduke Gwynne [q.v.] , Garth , Brycheiniog , oddeutu'r un adeg. Yn 1739 ychwanegwyd Llanfaes , Aberhonddu , at ei fywiolaethau. Rhoddodd Llangamarch heibio i'w fab-yng-nghyfraith yn 1763 , ond daliodd Lanfaes hyd ei f., 11 Medi 1767 . Claddwyd ef ym mynwent Llangamarch . Apwyntiwyd Williams Pantycelyn yn gurad iddo yn 1740 , ond gan i Theophilus Evans wrthod tystysgrif iddo gael ei urddo'n offeiriad ymadawodd yn 1743 .

Priododd, 1728 , Alice , merch Morgan Bevan o'r Gelligaled ym Morgannwg . Bu iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Mab i un o'i ferched a Hugh Jones , rheithor Llywel ac yn ddiweddarach Llangamarch , oedd Theophilus Jones [q.v.] , awdur History of Brecknockshire . Dywedir mai Theophilus Evans a fu'n foddion i ddarganfod rhinweddau ffynhonnau Llanwrtyd drwy yfed y dŵr y dywedai pawb ei fod yn wenwyn, a'i wella'i hun o'r clafr , yn 1732 .

Cyhoeddodd amryw lyfrau o natur hanesyddol a chrefyddol . Y mae dau amcan i'w canfod drwy ei holl waith — dyrchafu bonedd a hynafiaeth cenedl y Cymry , a dangos mai Protestaniaeth Eglwys Loegr yw'r wir ffydd Gristnogol. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw Drych y Prif Oesoedd , 1716 , ail arg. 1740 , llyfr rhagfarnllyd ac anfeirniadol ond hynod ddifyr ar hanes bore Cymru , a History of Modern Enthusiasm , 1752 , 2il arg. 1757 , lle cais brofi mai Pabyddion cudd yw pawb sy'n troi eu cefnau ar Eglwys Loegr . Oherwydd ei arddull sionc, gyfoethog o ddywediadau bachog a chymariaethau trawiadol, edrychir ar y Drych fel un o glasuron rhyddiaith Gymraeg .

Llyfryddiaeth:

  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • Drych y Prif Oesoedd , Bangor, 1740, 1927 (gol. S. J. Evans );
  • R. T. Jenkins , Yr Apêl at Hanes ac ysgrifau eraill , 1930 ;
  • Theophilus Jones , History of the County of Brecknock . (3ydd arg.), ii, 246-8;
  • T. Parry , Hanes Llenyddiaeth Gymraeg , 1944 , 204-5, 226-7.

Awdur:

Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor