Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , SAMUEL (‘ Gomerydd ’; 1793 - 1856 ), golygydd ; g. yn Llwyn-y-piod , ger S. Clears . Yn 1807 prentisiwyd ef gydag Evans , argraffydd , Caerfyrddin . Pan fu farw Joseph Harris (‘ Gomer ’) yn 1825 symudwyd swyddfa Seren Gomer o Abertawe i Gaerfyrddin , ac yn 1827 penodwyd Samuel Evans yn gyd-olygydd â D. D. Evans [q.v.] , ond llanwodd y swydd ei hun o 1835 hyd 1850 , pryd y cyfrifid ef yn un o brif newyddiadurwyr Rhyddfrydol ei ddydd. Yn 1852 ymunodd â swyddfa William Owen yng Nghaerdydd , ac yno golygodd Seren Cymru hyd ddiwedd 1852 , pan orffennwyd ei chyhoeddi, a'r Bedyddiwr o 8 Tachwedd 1854 hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig Cymraeg . Yn 1839 cyhoeddodd argraffiad diwygiedig o Eiriadur Dr. William Richards o Lynn , ac yn 1840 penodwyd ef gan Gymreigyddion y Fenni yn aelod o bwyllgor o bump a ddewiswyd i ddiwygio orgraff yr iaith Gymraeg . Ni chyfarfu'r pwyllgor erioed, ond cyhoeddodd Evans ei sylwadau ei hun ar y pwnc mewn cyfres o lythyrau yn Seren Cymru yn 1852 a gyhoeddwyd wedyn yn 1854 dan y teitl Y Gomerydd . Golygodd hefyd Y Cymro Bach , 1855 , casgliad o weithiau Benjamin Price [q.v.] , a chyfieithodd lawer o esboniad y Dr. Gill yn y Gymraeg . Bu f. yng Nghaerdydd 30 Awst 1856 , a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl (eglwys y Bedyddwyr) , lle yr oedd yn aelod.

Llyfryddiaeth:

  • Y Bedyddiwr , 1856 , 316;
  • Yr Haul , 1856 , 324;
  • Seren Gomer , 1856 , 476;
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1891 , 184;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900 , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908 ;
  • T. M. Jones , Llenyddiaeth fy Ngwlad , 1893 , 84, 95-6.

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth