EVANS, SAMUEL (1777 - 1833), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Samuel Evans
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1833
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghlydach gerllaw'r Fenni ym Mehefin 1777. Yn 18 oed (pan yn byw yn y Dre-hir ar odreon sir Henffordd) dechreuodd bregethu; bu wedyn yn cadw ysgol yng Nghwm-dŵr rhwng Trecastell a Llanymddyfri, ac yn pregethu yng Nghefn Arthen a'r eglwysi cylchynnol. Urddwyd ef yn weinidog Soar, Merthyr Tydfil, yn 1810, a bu yno hyd ei farwolaeth, 27 Mehefin 1833. Yr oedd yn ŵr o gryn allu; cyhoeddodd yn 1815 bregeth ar Athrawiaeth yr Iawn, a sgrifennodd lyfr (nas cyhoeddwyd cyn 1869) ar hanes eglwys Soar; yr oedd hefyd yn emynydd. Heblaw hyn, tyfodd rywsut yn feddyg o fri, a dywedid ei fod yn derbyn llawer iawn mwy o dâl fel meddyg nag fel gweinidog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.