Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , ROBERT ( fl. c. 1750 ), bardd . Bu'n glerc plwyf Meifod , a dywedir iddo farw yn yr Elusendy oddeutu 1750 . Cynhwyswyd ei gân fwyaf poblogaidd, sef ‘ Cerdd y Winllan ,’ ynghyd a dwy gerdd arall o'i eiddo, sef ‘ Ystyriaeth ar fyrdra oes dyn ’ a ‘ Cerdd ar ymadawiad Pachadur ai Oferedd ,’ gan Dafydd Jones , Trefriw , yn ei Flodeu-Gerdd , 1759 . Ysgrifennai yn ddwys ac yn ddifrifol, yn bennaf ar bynciau diwinyddol. Efe a ddysgodd Salisbury Pryce , ficer Meifod , i ddarllen Cymraeg .

Llyfryddiaeth:

  • Cambrian Quarterly Magazine , pedair cyfrol, 1829–33 , i, 445-6;
  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900 , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908 ;
  • J. H. Davies , A Bibliography of Welsh Ballads printed in the 18th century , 1908-11 .

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth