EVANS, RHYS (1835 - 1917), cerddor

Enw: Rhys Evans
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1917
Plentyn: William John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 24 Mehefin 1835 mewn ffermdy yn Cross Inn, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan William Penry. Yn 17 oed aeth i Abertawe; ymunodd â dosbarth cerddorol yno, a dysgodd ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd. Symudodd i fyw i Gwmafon, ac wedi hynny i Gaerdydd, ac ymunodd â chorau Rhys Lewis a Mr. Righton a berfformiai gyfanweithiau. Aeth i Lundain am ddwy flynedd, dychwelodd yn ôl i Rydaman, a sefydlodd yno gôr a ddaeth yn lled enwog.

Wedi priodi symudodd (yn 1860) i Aberdâr a dechreuodd fasnach fel dilledydd yno. Ymaelododd yng nghapel Annibynwyr Siloa, a phenodwyd ef yn arweinydd y canu. Ffurfiodd gôr yn yr eglwys a fu'n llwyddiannus mewn amryw o eisteddfodau. Bu ganddo ran amlwg yn sefydlu ' Cor Caradog,' a phan symudodd ' Caradog ' i fyw i Dreorci, ef a benodwyd yn arweinydd côr undebol Aberdâr. Rhoddodd i fyny gystadlu, ac ymroddodd i berfformio cyfanweithiau gyda chyfeiliant cerddorfa. Yr oedd yn chwaraeydd da ar y ffidil, a dysgai i'r gwahanol leisiau eu rhan trwy chwarae y rhan ar y ffidil gyda hwynt. Ysgrifennai hefyd i'r Darian ddadansoddiad o'r darnau a ddysgid yn y cyfarfod canu, a chynhyrchai y gwersi hyn ddiddordeb a brwdfrydedd y cantorion. Yn 1873, am ddau ddiwrnod yng ngwyliau'r Nadolig, perfformiwyd ganddo y ' Messiah ' (Handel) a ' Twelfth Mass ' (Mozart) gyda chantorion proffes a cherddorfa Cyfarthfa a chwaraewyr o Bryste a Chaerloyw, a pharhaodd i roddi perfformiadau blynyddol hyd 1895, pan ymneilltuodd (ac y dewiswyd ei fab WILLIAM JOHN EVANS (1866 - 1947) yn olynydd).

Gwnaeth Aberdâr yn un o'r canolfannau cerddorol pwysicaf. Bu galw mynych arno i arwain cymanfaoedd canu. Bu farw 27 Tachwedd 1917 a chladdwyd ef ym mynwent Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.