EVANS, Syr GRIFFITH HUMPHREY PUGH (1840 - 1902), bargyfreithiwr yn yr India

Enw: Griffith Humphrey Pugh Evans
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1902
Priod: Emilia Savi Evans (née Hills)
Plentyn: Griffith Pugh Evans
Plentyn: Lewis Pugh Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Herbert John Lloyd-Johnes

Ganwyd 13 Ionawr 1840, mab John Evans, Y.H., Lovesgrove, plwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Yr oedd yn gefnder i Griffith Evans. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen (lle y graddiodd), a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr (Lincolns Inn) yn 1867. Priododd, 1873, Emilia Savi, merch James Hills, Neechindepore, Bengal, India; bu iddynt dri mab a phedair merch.

Bu'n gweithredu fel bargyfreithiwr yn yr India; daeth yn aelod o gyngor Viceroy yr India, a pharhaodd yn aelod am yn agos i 20 mlynedd. Gwnaethpwyd ef yn K.C.I.E. yn 1892. Wedi iddo ymneilltuo o'r India cymerodd ran bwysig ym mywyd cyhoeddus Sir Aberteifi, lle y dewiswyd ef yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw.

Bu farw 6 Chwefror 1902.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.