EVANS, GEORGE PRICHARD (1820 - 1874), gweinidog y Bedyddwyr

Enw: George Prichard Evans
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1874
Rhiant: Richard Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Joseph Rhys

York Place, Abertawe (1863-74); ganwyd 13 Tachwedd 1820, yng Nghaerfyrddin, mab Richard Evans, morwr. Dechreuodd bregethu ym Mount Pleasant, Abertawe. Bugeiliai ddiadell Bethel, Strand, Abertawe, cyn mynd i Goleg Bryste, Hydref 1842. Aeth i Jamaica 'n genhadwr ddechrau 1844, ond wedi marw ei wraig a'i faban dychwelodd i Fryste yn 1845. O ddechrau 1846 hyd ei farwolaeth ar 22 Tachwedd 1874 cadwai ysgol ramadeg. Yno y bu Gethin Davies, Bangor, William Morris, Treorci, a Ceulanydd Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.