EVANS, THOMAS PENRY (1839 - 1888), gweinidog Annibynnol

Enw: Thomas Penry Evans
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn ardal Panteg, Sir Gaerfyrddin. Bratiog a fu ei addysg a chaled a fu ei fyd yn ei ieuenctid. Wedi bod yn gweini ar ffermydd y gymdogaeth aeth i weithio, yn 18 oed, yng ngwaith haearn y Cyfyng, Ystalyfera. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys y Gurnos, dechreuodd bregethu yno yn 1863, ac aeth at y Parch. Thomas Jones, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, i'w baratoi ar gyfer coleg. Bu yng Ngholeg Caerfyrddin o 1865 hyd 1868. Derbyniodd alwad o eglwys y Doc, Llanelli, ac urddwyd ef yno 6 Hydref 1868. Yn 1870 aeth i'r Cei Newydd, Sir Aberteifi, ac aros yno hyd 1882, pryd yr aeth i Hope, Pontardulais. Bu farw 26 Awst 1888. Heblaw bod yn bregethwr eithriadol o boblogaidd ar gyfrif ei arddull gartrefol a'i hiwmor, yr oedd hefyd mewn dosbarth ar ei ben ei hun fel darlithiwr ar destunau agos at fywyd, megis 'Bod yn ddyn,' 'Bod yn onest,' 'Wil Llygad y Geiniog.' Cyhoeddodd lyfryn bychan o'r enw Fy Mhregeth Gyntaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.