EVANS, MORGAN ('Cynllo Maesyfed ' neu ' Cynllo Maelienydd '; 1777? - 1843), offeiriad a phrydydd

Enw: Morgan Evans
Ffugenw: Cynllo Maesyfed, Cynllo Maelienydd
Dyddiad geni: 1777?
Dyddiad marw: 1843
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a phrydydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Ganwyd ym mhlwyf Llanrhystyd, Sir Aberteifi, o bosibl yn Rhyd-las, yn fab i David a Mary Evans (?). Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, a bu'n gurad Llanddeiniol yn yr un sir o 23 Medi 1804 hyd 22 Medi 1805 pan gafodd ficeriaeth Breideth a Chaslai yn Sir Benfro. Ar 4 Awst 1807 derbyniodd ficeriaeth Llangunllo, sir Faesyfed, ac o 15 Mehefin 1825 ymlaen daliai fywiolaethau Llanddewi'r Cwm a Llanfair ym Muallt yn ogystal. Bu farw yn Llanfair ym Muellt ddechrau 1843.

Ef ydoedd awdur An Elegy on the Death of the Rev. John Jenkins, M.A., late vicar of Kerry (Ludlow, 1830), a The Cambrian Muse habited in English Costume (Llandovery, 1840). Iddo ef hefyd y priodolir Awen-Gerdd Debygawl a Dynwaredawl, ar destun-ymadrodd Teetotalaidd … (Llanymddyvri, 1839).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.