Yn 1849 ymfudodd i Awstralia gan lanio yn Adelaide ar 19 Mai 1849 . Dilynodd waith ym mwynfa gopr Yuttala , cloddfa lechi Willinga , ac yn ddiweddarach aeth i fwynfeydd copr Burrah Burrah , 100 milltir o Adelaide . Cymry gan mwyaf oedd yn gysylltiedig â'r ffwrneisiau toddi, ac yma y dechreuodd bregethu , ac efe oedd y pregethwr Cymraeg cyntaf ar gyfandir Awstralia .
Yn 1850 symudodd i Aponinga , lle y bu am flwyddyn a hanner. Yn haf 1852 ymadawodd o Dde Awstralia i weithfeydd aur Bendigo , a bu'n cloddio am aur ymysg rhai o'r cymeriadau mwyaf anhydrin. Casglodd yno tua £1,000. Dychwelodd i Gymru fis Mawrth 1853 , i fyned â'i rieni a'r plant i America . Ymsefydlodd yn Apple River Elizabeth , Joe Davies Co. , Illinois , yn haf 1853 . Yno codwyd ef i'r weinidogaeth ymysg y Methodistiaid Calfinaidd , a llafuriodd yn galed mewn cylch eang o'r wlad honno. Tua'r flwyddyn 1857 priododd ferch i un o'r sefydlwyr Cymreig , ac agorodd fusnes yn Dodgeville , Wisconsin , gan bregethu bob cyfle a gâi. Dirwynodd ei fusnes yno i ben a dychwelodd i Illinois gan ddilyn cwrs amaethyddol drachefn, ym Mawrth 1860 , a phregethai bob Sul. Bu ar y llwyfan yn sicrhau etholiad Abraham Lincoln . Ordeiniwyd ef yn weinidog rheolaidd yn Columbus , Wisconsin , 12 Mehefin, 1861 . Oherwydd bod rhaid i'w wraig newid hinsawdd, dychwelodd i Awstralia , a thiriodd ym Melbourne , Mawrth 1863 . Ar ôl ychydig amser symudodd i Ballarat a Sebastopol , a phenderfynodd aros yn Sinton , Lucky Woman , a Snake Valley , a chynhaliai wasanaethau crefyddol yn y capel bychan bob Sul yn yr Happy Valley . Yn Ebrill 1863 pregethodd yn oedfa'r hwyr yn Gymraeg , a gweinyddodd Swper yr Arglwydd, ac efe oedd y gweinidog Cymreig (Methodistiaid Calfinaidd ) a weinyddodd y sacrament i'w gydwladwyr yn y wlad honno. Cychwynnodd ef ac eraill achosion Methodistiaid Calfinaidd yn Ballarat , Sebastopol , Melbourne , Happy Valley , a Charngham . Ar 24-6 Gorffennaf 1863 cynhaliwyd cymanfa gyffredinol Methodistiaid Calfinaidd Victoria yn Sebastopol .
Yn Ebrill 1864 rhoddodd heibio weithio fel mwynwr , ac aeth yn weinidog sefydlog eglwysi Ballarat a Sebastopol .
Cynhaliwyd eisteddfod fawr yn Castlemain a pharatôdd a phrintiodd rifyn cyntaf o'r Ymgeisydd , ond oherwydd diffyg cefnogaeth bu'r cyfnodolyn farw ar ei enedigaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1865 , y flyddyn y daeth ar ymweliad â Chymru . Dychwelodd ym Mehefin 1865 i America , lle'r aeth ei wraig yn wael; ac oddi yno dychwelodd drachefn i Ballarat a'r cylch. Penderfynwyd cychwyn cyfnodolyn bychan a deitlwyd yn Awstralydd , a chydolygai W. M. Evans a Theophilus Williams hwnnw. Daeth y rhifyn cyntaf allan Gorffennaf 1867 , a pharhaodd i ymddangos yn ddifwlch hyd Chwefror 1871 . Yn Hydref 1874 daeth Yr Ymwelydd, Newyddiadur Cymreig at wasanaeth y Cymry yn Victoria, New Zealand, etc. , cyntaf allan ar 16 Hydref , a pharhaodd i ddod allan yn fisol hyd Rhagfyr 1876 . Golygid hwn hefyd gan W. M. Evans .
Y mae'r ddau gylchgrawn yn gloddfa gyfoethog i hanes y Cymry yn Awstralia yn yr ystyr grefyddol a chymdeithasol. Evans a gychwynnodd y Cambrian Society , ac eisteddfodau mawr Ballarat . Ar ôl gweinidogaethu yn Ballarat a'r cylchoedd, ymddiswyddodd ac aeth i fyw i Bourke Street , Melbourne , lle yr agorodd siop lyfrau . Bu f. 4 Awst 1883 , a chladdwyd ef ym mynwent Ballarat yn 56 mlwydd oed.
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor
Ceris Gruffudd, Aberystwyth