Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , MAURICE ( 1765 - 1831 ), clerigwr efengylaidd ; g. yn Pengelli , plwyf Llangwyryfon , sir Aberteifi . Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig dan Edward Richard , urddwyd ef gan esgob Tyddewi , 1787 , daeth yn gurad i Henry Venn yn Yelling , sir Huntingdon , 1791-6 , ac yna yn Eltisley , sir Caergrawnt , 1796-1810 . Penodwyd ef i ficeriaeth Tregaron , 20 Medi 1810 ; Penybryn , 18 Ebrill 1818 ; Llangeler , 14 Chwefror 1820 ; a Penybryn ynghyda Betws Ifan a Brongwyn , 30 Hydref 1820 . Bu f. 24 Rhagfyr 1831 . Mawrygid ei sêl efengylaidd gan brif arweinwyr y mudiad yn Lloegr yn nyddiau Henry Venn ; meddai Thomas Jones , Creaton , amdano mewn llythyr at Thomas Charles , Mawrth 1794 : ‘He is a charming soul, a bundle of sweet dispositions.’ Bu ganddo ran helaeth yn hyrwyddo'r ffordd i gael Beiblau i Gymru , cyn sefydlu Cymdeithas y Beiblau .

Llyfryddiaeth:

  • John Owen , Memoir of the Rev. Thomas Jones late of Creaton, Northamptonshire , 1851 ;
  • The life of the Rev. Henry Venn Elliott, M.A., perpetual curate of St. Mary's Brighton, and late Fellow of Trinity College, Cambridge , 1868 (5ed arg.), 57, 500, 520;
  • D. E. Jenkins , Life of Thomas Charles , 1908 , ii, 248-65.

Awdur:

Y Parch. Daniel Williams, (1878-1968), Llangollen