EVANS (TEULU), argraffwyr ym Machynlleth, Abermaw, a Chaerfyrddin

TITUS EVANS (fl. 1760-1800), argraffydd

Yr oedd Titus Evans yn byw ym Machynlleth rai blynyddoedd cyn iddo ddechrau argraffu yno tua 1789 e.e. ceir ei fod yn gwerthu almanac John Prys yno yn 1778. Ymddengys ei fod yn swyddog tollau'r Llywodraeth ac yn ŵr gweddol flaenllaw yn y dref, a barnu oddi wrth yr hyn a ddywed Ifano Jones (History of Printing and Printers in Wales). Bu ei wraig, Ellinor (neu Ellen), ferch John Jones, Esgair Evan, Llanbrynmair, farw ar 6 Ebrill 1793. Arferid dywedyd iddo ymfudo i America yn 1793, pan gollodd ei wraig a'i swydd o dan y Llywodraeth, eithr yr oedd ym Machynlleth ym mis Tachwedd y flwyddyn honno; yn fuan wedyn, neu yn gynnar yn 1794, fe'i ceir yn argraffu baledi yn Abermaw. Dengys Ifano Jones hefyd na fu iddo argraffu rhifyn iii, Cylchgrawn Cymraeg, Awst 1793, serch bod ei enw ar yr wyneb-ddalen; gan John Daniel a John Ross yng Nghaerfyrddin yr argraffwyd hwnnw.

JOHN EVANS (bu farw 1830), argraffydd

Mab Titus Evans. Dechreuodd argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1795. Yr oedd ef yn grefftwr, ac yn hynny o beth yn wahanol iawn i'w dad. Bu cryn lawer o gydymgais mewn busnes rhyngddo a'i gymydog John Daniel. Argraffai Feiblau a Thestamentau - e.e. pedwar argraffiad o 'Feibl Peter Williams.' Yn 1825, ar farw Joseph Harris ('Gomer'), prynodd yr hawl i argraffu a chyhoeddi Seren Gomer . Bu hefyd am rai blynyddoedd yn berchennog a chyhoeddwr y Carmarthen Journal. Bu farw 25 Mai 1830 yn 55 oed; bu ei weddw farw 19 Ionawr 1850.

Yr oedd i John Evans dri mab a ddaeth yn argraffwyr yng Nghaerfyrddin - DAVID, JOHN a WILLIAM.

Daeth DAVID EVANS, y mab hynaf, yn berchennog, argraffydd, a chyhoeddwr y Carmarthen Journal yn 1820, a pharhaodd i'w argraffu hyd 18 Gorffennaf 1823. JOHN EVANS, ei frawd, a gyhoeddodd y rhifyn dilynol. Bu John farw 7 Ionawr 1840, yn 42 oed. Yr oedd eisoes, sef yn 1832 wedi trosglwyddo'r newyddiadur i'w frawd WILLIAM EVANS (a fu farw 1847), a'i cyhoeddodd hyd 9 Awst 1844. Bu William yntau, fel ei dad, yn argraffu Seren Gomer am gyfnod.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.