Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , EVAN JOHN ( ? - 1891 ), Hebreigydd ; g. ym Mrycheiniog , ond nid oes wybodaeth am y lle na'r dyddiad, nac ychwaith am gwrs ei addysg fore. Graddiodd yn B.A. (Llundain) a Ph.D. (Heidelberg) . Bu'n athro Hebraeg ac athroniaeth yng Ngholeg Cheshunt ( Annibynwyr ), o 1864 hyd 1867 , ac o 1878 hyd ei farw sydyn (ar 14 Ionawr 1891 ) bu'n athro Hebraeg ac Almaeneg ( Hebraeg a'r Hen Destament o 1887 ymlaen) yn New College , Llundain . Fe'i galwyd yn ‘Barchedig’ gyntaf yn adroddiad New College am 1879-80 , ond ni roddir unrhyw wybodaeth am ei ordeinio. Ar adeg ei farw gweithiai ar esboniad ar y Salmau . Gyda W. F. Hurndall cyhoeddodd Pulpit Memorials , 1878 .

Llyfryddiaeth:

  • Eminent Welshmen , 1908 , 1908 , 102 f.;
  • Adroddiadau New College, 1878 , 1879-80 , 1887 , 1891 — wedi eu dethol gan y Parch. J. B. Binns , ysgrifennydd a llyfrgellydd New College.

Awdur:

Y Parchedig Athro Bleddyn Jones Roberts, D.D., (1906-77), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

EVANS , EVAN JOHN ( 1827 - 1891 ; Bywg. , 218b). Hebreigiwr ac athro coleg ; g. yng Nghribart , gogledd Brycheiniog . Ni wyddys ymhle y bu yn yr ysgol, ond dechreuodd bregethu yn eglwys Annibynnol Troedrhiwdalar . Graddiodd yn 1850 o goleg Coward yn Llundain , ac astudiodd wedyn yn Sgotland ac yn yr Almaen ( Ph.D. , Heidelburg , 1854 ). Ni chofnodir iddo gael ei ordeinio, ond o 1879 ymlaen gelwir ef yn ‘Rev.’ O 1864 hyd 1877 bu'n athro Hebraeg ac Athroniaeth yn Cheshunt , o 1878 hyd 1887 yn athro Hebraeg ac Almaeneg yn New College , Llundain , ac o 1887 yn athro Hebraeg a'r Hen Destament yno. Gyda W. F. Hurndell cyhoeddodd ( 1878 ) Pulpit Memorials , ac ar adeg ei f. yr oedd yn paratoi esboniad beirniadol ar y Salmau . Bu f. yn sydyn, 14 Ion. 1891 , a chladdwyd yn Hampstead ar y 19. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys nad oedd fawr a fynnai â Chymru — awgryma nodyn yn y Dysgedydd ( 1891 , 79) iddo suro'n ddirfawr am na chafodd swydd yn athrofa Aberhonddu ; ac y mae tystiolaeth na chredai mewn cadw'r Gymraeg yn fyw. Ond yr oedd o blaid addysg ganolradd ac uwchradd yng Nghymru . Yn Hyd. 1878 etholwyd ef yn gydysgrifennydd Syr Lewis Morris ; Bywg. , 623b) coleg Aberystwyth , ac ail-etholwyd ef i'r swydd yn Hyd. 1881 , ond ymddiswyddodd yn Chwef. 1884 , eto gan barhau yn aelod o gyngor y coleg . Ymddengys mai gŵr go anhydrin oedd, a thystia llythyr ar y pryd i'w ymddiswyddiad gael ei dderbyn ‘with alacrity’.

Llyfryddiaeth:

  • Tystysgrifau yn Somerset House;
  • gwybodaeth (gan gynnwys nodyn gan ei weddw) gan y diweddar Mrs E. Morgan Humphreys , gan New College (trwy'r Athro Bleddyn Jones Roberts ), a chan y Parch. C. E. Surman ;
  • The Thomas Charles Edwards Letters , Aberystwyth, 1952 (mynegai) gol. T. I. Ellis ,
  • a gwybodaeth bellach gan Mr. Ellis .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor