EVANS, JOHN (1815 - 1891), archddiacon Meirionnydd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1891
Priod: Mary Evans
Rhiant: Ann Evans (née Owen)
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon Meirionnydd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Williams James

Ganwyd 4 Mawrth 1815 yn Tynycoed, Abererch, mab John Evans, Tanycoed, Llanfair, Meirionnydd, ac Ann, merch John Owen, Crafnant, Llanfair Harlech. Yr oedd ei fam yn ddisgynnydd o Edmwnd Prys.

Addysgwyd ef yn ysgol Biwmares. Aeth i swyddfa'r cyfreithiwr David Williams, aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Yr oedd ei wraig, Mary, o Saethon, yn gyfnither i David Williams yr aelod seneddol. Oddi yno i Goleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd (B.A.) yn 1841.

Ordeiniwyd ef i guradiaeth Llanbedr y Cennin (Sir Gaernarfon); mudodd i guradiaeth Pentrefoelas (sir Ddinbych); 1857, rheithor Machynlleth a deon gwlad Cyfeiliog; 1862, rheithor Llanllechid; 1866, archddiacon Meirionnydd; 1888, rheithor Aber. Bu farw 24 Mai 1891. Yr oedd yn offeiriad diwyd mewn plwyf ac esgobaeth, yn ysgolhaig medrus, ac yn hynafiaethydd gwych. Ysgrifennodd 'Pentrefoelas' (yn Cambrian Journal, 1854 ac 1855), ac 'Ysbytty Ifan and the Hospitallers' (yn Archæologia Cambrensis, 1860).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.