EVANS, JOHN (1814 - 1875), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a ddaeth yn adnabyddus fel 'I. D. Ffraid' ac 'Adda Jones'

Enw: John Evans
Ffugenw: I. D. Ffraid, Adda Jones
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1875
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Wilbert Lloyd Roberts

Ganwyd yn Llansantffraid Glan Conwy, 23 Gorffennaf 1814. Bu yn ysgol Thomas Lloyd, Abergele, am ychydig fisoedd yn 1824, a chafodd dymor byr yn ysgol John Hughes, Wrexham, tua 1830. Dechreuodd weithio yn siop ei ewythr yng Nglan Conwy pan yn 11 oed, ac ar wahân i'w dymor yn Wrecsam yno y bu ar hyd ei oes. Daeth pedwar busnes arall i'w ofal - siop gweithio hoelion, melin lifio, melin ddŵr, a siop arall. Priododd yn 1836 a chafodd chwech ô blant; bu farw ei wraig yn 1850. Ailbriododd yn 1853. Pan yn 16 oed ysgrifennodd Hanes yr Iddewon (Llanrwst, 1831). Ef oedd golygydd a rhan-awdur Difyrwch Bechgyn Glanau Conway (Llanrwst, 1835). Gwnaeth Eiriadur Saesneg-Gymraeg gyda 'geirlyfr llysieuol' (Llanrwst, 1847), ac ysgrifennodd Pennau Teuluoedd a'r Ysgol Sabothol (Dinbych, 1870). Daeth yn enwog fel cyfieithydd; ei orchestwaith oedd Coll Gwynfa (Wrecsam, 1865), ond cyfieithodd hefyd Bywyd Turpin Leidr (Llanrwst, 1835), a Nos Feddyliau Young (heb ei gyhoeddi; NLW MS 4757B ). Dechreuodd bregethu yn 1840 ac fe'i hordeiniwyd yn 1853 ond ni bu ganddo ofal eglwys. Beirniadai'n gyson yn yr eisteddfodau, a daeth yn un o brif arweinwyr y mudiad dirwestol yn y Gogledd. Bu hefyd yn oruchwyliwr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Ef oedd awdur 'Llythyrau Adda Jones' a ymddangosodd yn Baner ac Amserau Cymru o Ionawr 1869 hyd Rhagfyr 1874 - cyfres o 483. Gwnaed tysteb genedlaethol iddo yn 1869. Bu farw 4 Mawrth 1875.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.