Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , JOHN ( 1796 - 1861 ), ysgolfeistr ; g. 7 Chwefror 1796 , ym Mlaen Plwyf , plwyf Llanychaiarn , sir Aberteifi . Gwehydd oedd ei dad a dilynodd yntau yr un alwedigaeth nes blino ohono ar y gwaith a cherdded i Lundain pan oedd yn 17 oed i chwilio am waith mwy wrth ei fodd. Yno cynhaliodd ei hun drwy werthu llyfrau o ddrws i ddrws . Daeth o dan adain David David , cydwladwr a thiwniwr offer cerdd , a thrwy ei gymorth ef gosodwyd Evans mewn ysgol a gedwid gan Griffith Davies [q.v.] , y cyfrifydd enwog. Gwnaeth gynnydd mawr yno mewn mathemateg. Ar ôl bod yn cadw ysgolion yn Llanfair Caereinion a Llanidloes , dychwelodd i Aberystwyth oddeutu 1821 (neu'n gynharach, gan y dywed ei garreg fedd iddo fod yn ysgolfeistr am 44 mlynedd) i agor ei ysgol enwog , ‘ The Mathematical and Commercial School ,’ yn Chalybeate Street , lle y câi ieuenctid y cylch addysg ymarferol ganddo am dros 40 mlynedd. Ystyrid hi yn ysgol enwog am ddysgu morwriaeth . Yr oedd Evans yn dra hyddysg hefyd mewn seryddiaeth , a meddai ddawn arbennig i ddyfeisio deialau haul ac offerynnau peiriannol . Priododd 14 Mai 1821 , yn eglwys S. Mihangel , Gwen Mason ( 1796 - 1834 ), o blwyf Llanbadarn Fawr . Yn 1858 anrhegwyd ef gan drigolion Aberystwyth a thysteb am gadw cloc ar gyfer y dref . Bu'n flaenor yn Tabernacl , capel y Methodistiaid Calfinaidd , Aberystwyth , am 14 mlynedd. Bu f. 2 Ebrill 1861 .

Llyfryddiaeth:

  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 , 339;
  • Cymru , Ionawr 1892 ;
  • Dan Williams , Memoirs of County Cardigan , 1874 , 1874 ;
  • Aberystwyth Observer , 22 Rhagfyr 1858 , 6 Ebrill 1861 ;
  • Y Goleuad , 11 Tachwedd 1875 .

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

EVANS , JOHN ( 1796 - 1861 ; Bywg. , 228-9) Ymhlith ei ddisgyblion yr oedd Lewis Edwards ( Bywg. , 178) , Henry Richard ( Bywg. , 798) , David Charles Davies ( Bywg. , 106) a Ieuan Gwyllt ’ ( John Roberts , Bywg. , 815) . Pan fu Lewis Edwards yn cadw ysgol yn Aberystwyth nid ystyriai hi'n ‘gyd-ymgeisydd’ ond yn ‘ymbaratoad’ i ysgol Evans.

Llyfryddiaeth:

  • J. H. Davies , Cymru , 44 ( 1913 ), 45;
  • D. Samuel , Cymru , 21 ( 1901 ), 91.

Awdur:

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor