Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , JOHN ( 1770 - 1799 ), teithiwr ac anturiaethwr ; g. yn Waunfawr , sir Gaernarfon — fe'i bedyddiwyd 14 Ebrill 1770 , yn fab Thomas Evans , cynghorwr gyda'r Methodistiaid , ac Anne , merch Evan Dafydd , yntau'n gynghorwr gyda'r Methodistiaid . Yn 1792 cytunodd ag Edward Williams (‘ Iolo Morganwg ’) i fyned gydag ef ar daith i ymweled â'r Indiaid Cymreig y dywedid eu bod yn byw yng nghyrion uchaf yr afon Missouri . Pan dynnodd Iolo yn ôl o'r anturiaeth aeth Evans ymlaen ei hunan, gan gyrraedd Baltimore ar 10 Hydref 1792 . Cychwynnodd tua'r gorllewin ym mis Chwefror 1792 trwy Philadelphia o Fort Pitt , gan fynd i lawr yr afon Ohio ac i fyny'r Mississippi cyn belled â St. Louis . Yr oedd llywodraethwr Sbaeneg St. Louis , Don Zenon Trudeau , yn ddrwgdybus ohono, ac fe'i cadwodd yng ngharchar, eithr cafodd Evans ei ryddhau ymhen amser, ac yn Awst 1795 aeth gyda James Mackay ar y drydedd ymgyrch a anfonwyd gan y ‘ Missouri CompanySbaeneg i chwilio'r afon a'r wlad o amgylch iddi a darganfod ffordd trwy'r mynyddoedd i arfordir y Môr Tawel . Treuliasant y gaeaf gyda'r Mahas , ac ar 21 Tachwedd aeth Evans gyda'r Indiaid ar gyrch hela ychen gwyllt a barhaodd am 25 diwrnod. Yn gynnar ym mis Chwefror 1796 anfonwyd Evans gan Mackay i geisio pobl Ffrangeg ( Canada ) y ‘ North West Company ’ a oedd wedi sefydlu gorsaf ar y Missouri ymhlith yr Indiaid Mandan . Ar ôl iddo deithio 300 milltir dros y tir fe'i gorfodwyd i ddychwelyd oblegid iddo ddyfod i wrthdarawiad â'r Sioux . Cychwynnodd eilwaith ar 8 Mehefin a chyrraedd yr Indiaid Mandan ar 23 Medi . Ymlidiodd y bobl Ffrangeg o Canada , tynnwyd y faner ‘ Union Jack ’ i lawr a dyrchafu baner Sbaen yn ei lle. Ar wahân i un heliwr ( Jacques d'Eglise ), Evans oedd y dyn gwyn cyntaf i deithio i fyny'r Missouri am bellter o 1,800 milltir o'r fan y mae'r afon honno yn ymuno â'r Mississippi . Gwnaeth hefyd fap manwl o gwrs yr afon . Ar ôl treulio'r gaeaf gyda'r Indiaid Mandan bu raid iddo adael yr orsaf a dychwelodd i St. Louis ar 15 Gorffennaf 1797 . Parhaodd i wasnaethu Llywodraeth Sbaen , eithr bu f. yn New Orleans ym mis Mai 1799 .

Llyfryddiaeth:

  • David Williams , ‘John Evans's Strange Journey, Part I, The Welsh Indians,’ yn yr American Historical Review , 1895 ff , Ionawr 1949 ;
  • ‘Part II, Following the Trail,’ ibid., Ebrill 1949 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

EVANS , JOHN ( Bywg. , 227-8) Cychwynodd tua'r gorllewin ym mis Chwefror 1793 (nid 1792 ). (Tua'r diwedd) nid baner Ffrainc ond baner Sbaen .