EVANS, JOHN (- 1779?), clerigwr efengylaidd, cyfieithydd, ac esboniwr

Enw: John Evans
Dyddiad marw: 1779?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr efengylaidd, cyfieithydd, ac esboniwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd yn y Meini Gwynion, Llanbadarn Odwyn. Aeth i Rydychen a graddiodd (1726?). Ei guradiaeth gyntaf oedd Llanarth, Sir Aberteifi; oddi yno aeth i Loegr i'w adnabod mwy fel ' ffeirad Portsmouth' ('Plymouth' i wyr Ceredigion). Cymwynasodd Gymru drwy gyfieithu llyfrau defosiynol i'r Gymraeg. Rhoddir iddo'r credyd o drosi gwaith Jabez Earle, gweinidog Long Acre, sef Meditations on the Sacrament, 1735; y 3ydd arg. o Catecism y Gymanfa neu y Catecism Byrraf … er Hyfforddi Dynion Ieuaingc gan I. Watts, 1741; Christian Institutes Dr. Gastrel o dan y teitl Y Deddfau Cristionogol sef Didwyll Air Duw… (Caerfyrddin, 1773). Fel esboniwr blaenorodd Peter Williams. Ei brif waith ydoedd Cyssondeb y Pedair Efengyl: Gyd ag Agoriad Byrr, a Nodau Athrawus … (arg. ym Mryste, 1765). Hwn ydoedd yr esboniad rheolaidd cyntaf yn y Gymraeg. Bu farw yn Portsmouth 1779.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.