EVANS
,
WALTER JENKIN
(
1856
-
1927
),
prifathro Coleg Caerfyrddin
;
g.
1 Ebrill 1856
yn nhref
Caerfyrddin
, mab i'r
Parch.
Titus
Evans
[q.v]
, ac ŵyr i'r
Parch.
John
Jeremy
[q.v.]
,
Caeronnen
. Fe'i haddysgwyd yn
academi Parc-y-felfed
, yn
ysgol ramadeg Caerfyrddin
lle yr enillodd y
brif ysgoloriaeth
,
Coleg Caerfyrddin
(
1870-3
),
Coleg Iesu
,
Rhydychen
(
1873-7
;
B.A.
ac
M.A.
), a
Manchester College
(
Rhydychen
) (
1876-8
), o dan
James
Martineau
. Canfu na fwriedid iddo fod yn
bregethwr
, ac yn ystod
1879-84
bu'n
athro
yn
Brighton
a
Llundain
. Apwyntiwyd ef yn
1884
yn
athro Groeg a Lladin
yn ei hen goleg,
Caerfyrddin
, ac yn
1888
yn
brifathro
y coleg hwnnw. Yr oedd yn
ysgolor
a gŵr bonheddig. Yn ystod ei gyfnod maith fel
prifathro
daeth â'r coleg a'r
Brifysgol
yn agos at ei gilydd.
Cyhoeddodd ymchwil fanwl i farddoniaeth Ladin
, ond hwyrach mai fel
croniclydd
manwl a
hanesydd ei enwad
y'i cofir hwyaf. Gwyddys am ei erthyglau ar hanes
Coleg Caerfyrddin
yn
Yr Ymofynnydd
ac yn y
Lloyd Letters
. Ceir ganddo fywgraffiadau o'r myfyrwyr
Undodaidd
yng
Nghaerfyrddin
yn
Oriel Coleg Caerfyrddin
, ac erthyglau ar hanes
Undodiaeth
yn nhref
Caerfyrddin
yn y
Christian Life
,
1916
. Y mae yn y
Llyfrgell Genedlaethol
chwech cyfrol drwchus o fywgraffiadau o fyfyrwyr y coleg a'i nodiadau ar hanes yr enwad.
Ysgolor
tawel ydoedd ac
athro
yn anad dim, a gwelir gofal manwl yr athro ar bob dim o'i waith. Bu f.
10 Chwefror 1927
.
Llyfryddiaeth:
-
Adroddiad ‘Manchester College, Oxford.’
;
-
W. D. Jeremy
,
The Presbyterian Fund and Dr. Williams'
Trust
, 1885
;
-
Yr Ymofynnydd
,
1927
, 93-7;
-
The Unitarian Students at the Presbyterian
College, Carmarthen…1796–1901
, 1901
, 92;
-
Oriel Coleg Caerfyrddin
, 1909
, 130-2.
Awdur:
Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965),
Llanbedr-pont-Steffan