EVAN(S), JAMES ('Carneinion '; 1814 - 1842), Trefgarn, Sir Benfro, pregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynwyr, ac awdur

Enw: James Evan (S)
Ffugenw: Carneinion
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1842
Rhiant: Martha Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Y Cristion Dyddorgar: neu Lawlyfr i Broffeswyr Crefydd (Llanelli, 1839); ganwyd yn Nhreaser-fach ym mhlwyf Breideth, Sir Benfro, 28 Mehefin 1814, mab John a Martha Evans. Collodd ei olwg yn llwyr cyn bod yn 14 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn 1832. Teithiodd lawer drwy Gymru; ceir hanes taith a gymerodd Thomas Nicholas ac yntau o Drefgarn i Lerpwl yn 1838 yn NLW MS 3091B . Bu farw ar 5 Mehefin 1842, a chladdwyd ef ym mynwent Breideth ddeuddydd yn ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.