EVANS, HUGH (1854 - 1934), awdur a chyhoeddwr llyfrau

Enw: Hugh Evans
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1934
Priod: Jane Evans (née Williams)
Rhiant: Jane Evans (née Barnard)
Rhiant: Hugh Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Williams

Ganwyd yn Ty'n Rhos, Cwm Main, Llangwm, 14 Medi 1854, mab Hugh Evans a Jane (Barnard). Priododd Jane, ferch David a Sarah Williams, Pant-y-Clai, Cynwyd. Ar ôl tymor byr yn ysgol Cerrig-y-drudion o dan ofal John Williams (a fuasai'n cadw siop lyfrau yn y Strand, Llundain) dechreuodd weithio fel wagner ar wahanol ffermydd. Aeth i Lerpwl yn 1875 lle bu'n gweithio am flwyddyn ynglŷn ag adeiladu capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Stanley Road, Bootle, ac yna am saith mlynedd yn gwneuthur clocsiau yng ngwaith R. J. Jones, Vauxhall Works, Lerpwl. Cychwynnodd siop bapur ysgrifennu a newyddiaduron yn Stanley Road yn 1889; sefydlodd wasg argraffu yn 1897 a dechrau argraffu cylchgronau - yn eu plith Y Beirniad (1911-8). Rhwng 1897 a 1934 cyhoeddodd dros 300 o lyfrau Cymraeg. Gyda'i ddau fab ac Arthur Foulkes (Evans Sons and Foulkes) cychwynnodd y newyddiadur Cymraeg Y Brython yn Chwefror 1906; o Dachwedd 1909 Hugh Evans a'i Feibion oedd perchenogion a chyhoeddwyr y newyddiadur. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r Brython a newyddiaduron eraill a chylchgronau Cymraeg ar hanes a llên gwerin Edeirnion, a hanes a llyfryddiaeth llyfrau Cymraeg a argraffwyd yn Lerpwl. Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau: Camau'r Cysegr (1926), sef hanes eglwys Gymraeg Methodistiaid Calfinaidd Stanley Road, Bootle; Hogyn y Bwthyn Bach To Gwellt (1930), stori i blant; Cwm Eithin, disgrifiad o fywyd gwledig a hen arferion Cymru 150 mlynedd yn ôl, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1931 ac a oedd yn ei bumed argraffiad yn 1949 (cyfieithwyd y llyfr hwn yn Saesneg gan E. Morgan Humphreys a'i gyhoeddi dan y teitl The Gorse Glen yn 1948); Y Tylwyth Teg (a gyhoeddwyd yn 1935 wedi'i farw), a nifer o lyfrau darluniau ar destunau crefyddol ar gyfer plant. Bu farw yn Pen-y-bryn, Cynwyd, Corwen, 30 Mehefin 1934, ac fe'i claddwyd yn Longmoor Lane, Kirkdale, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.