Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , JOHN HUGH (‘ Cynfaen ’; 1833 - 1886 ), gweinidog Wesleaidd ; g. 12 Gorffennaf 1833 yn Ysgeifiog , sir Fflint , mab John Evans (‘ Ioan Tachwedd ’) [q.v.] . Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol y pentref, ac yna (oherwydd anghydwelediad ynglŷn â dysgu'r Catecism ) yn Ysgol Frutanaidd Licswm . Aeth yn ysgolfeistr tloty Rhuthyn ( 1853 ). Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth ( 1860 ). Gosodwyd ef ar gylchdaith Bangor er mwyn cynorthwyo Samuel Davies yn y llyfrfa. Yna llafuriodd yn Birkenhead (cylchdaith Lerpwl ) ( 1863 ); Llundain ( 1866 ); Llanrhaeadr-ym-Mochnant ( 1869 ); y Rhyl ( 1872 ); Lerpwl ( 1875 ); Caernarfon ( 1878 ); Dolgellau ( 1881 ); Manchester ( 1882 ); Llanrwst ( 1885 ). Priododd Maria , merch Issachar Roberts , Lerpwl , gynt o'r Wyddgug ( 1864 ). Cyhoeddodd ysgrifau yn Y Geninen ar ‘ Chwaeth a Beirniadaeth ,’ 1883 ; ‘ Gweriniaeth yr Eisteddfod ,’ 1884 ; ‘ Eben Fardd fel bardd darluniadol ,’ 1885-6 . Bu ganddo ddwy ysgrif yn Y Traethodydd , 1878-82 , a gwnâi ei ysgrifau yn Yr Eurgrawn gyfrol drwchus. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau Samuel Davies I , 1864 ; ‘ Pryddest Goffa i Thomas Aubrey ,’ 1869 ; cyfrol o weithiau Rowland Hughes a'i ddarlith ef arno. Y mae 21 pregeth o'i eiddo, a'i ddarlith ar Job , yn ei Gofiant . Ei syniad ef oedd darlith daleithiol ei enwad, a darlithiodd yn y gyfres ar ‘ Cristionogaeth a Deddf Derbyniad Crefydd .’ Darlithiodd lawer ar destunau eraill. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr dirwest a'r byrddau ysgol . Bu f. 24 Mehefin 1886 .

Llyfryddiaeth:

  • W. H. Evans , Cyfrol Goffadwriaethol Cynfaen. Darlith ar Job, a dwy ar hugain o bregethau … dan olygiad ei frawd, W. H. Evans. Gyda braslun o fywyd yr awdwr. Ynghydag atddodiad: Pryddest goffadwriaethol gan Cadvan (J. Cadvan Davies) , Treffynnon, 1888 , 1888 ;
  • H. Ll. Williams , Safon Beirniadu Barddoniaeth yng Nghymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg , 1941 , 1941 , 136-46;
  • Bathafarn cylchgrawn hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru , i, iii.

Awdur:

Y Parch. Edward Tegla Davies, D.Litt., (1880-1967), Bangor