EVANS, HUGH (1790 - 1853), milfeddyg a cherddor

Enw: Hugh Evans
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1853
Rhiant: Gwen Evans
Rhiant: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milfeddyg a cherddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Natur ac Amaethyddiaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1790, mab Evan a Gwen Evans, Pencraig Fawr, Betws Gwerfyl Goch, Sir Feirionnydd. Yr oedd yn gerddor da, ac yn chwaraewr medrus ar y sielo. Ef hefyd oedd arweinydd y canu yn eglwys Betws Gwerfyl Goch. Yn 1837 sefydlwyd ' Cymdeithas Gantorawl Cerrig-y-drudion ' ac o dan ei nawdd cyhoeddodd Hugh Evans Holwyddoreg ar Egwyddorion Peroriaeth, yn rhannau dau swllt yr un, ar gyfer cyfarfodydd chwarterol y gymdeithas. Trwy'r Holwyddoreg lledaenwyd gwybodaeth gerddorol i ran helaeth o'r wlad. Bu farw 20 Ionawr 1853, ym Mhenyrallt, plwyf Llangwm Betws Gwerfyl Goch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.