Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , HUGH ( 1712 - 1781 ), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr , aelod o deulu y mae ei hanes ynghlwm â hanes Bedyddwyr Maesyfed a gogledd Brycheiniog ; yn wir, fe'i henwyd ar ôl Hugh Evans (a fu f. 1656 ) , arloesydd yr enwad yn y parthau hynny, serch nad oedd o'r un teulu ag ef. Cydlafuriai ei daid THOMAS EVANS (bu f. 1688 ) , â Henry Gregory [q.v.] , ond nid oedd yn Armin fel Gregory ; rhoddwyd plwyf Maesmynus iddo gan y Profwyr , bwriwyd ef allan yn 1660 , bu raid iddo symud i Lanafan Fawr mewn canlyniad i'r Ddeddf Bum Milltir , a thrwyddedwyd ef yno dan Oddefiad 1672 . Mab i Thomas Evans oedd CALEB EVANS ( 1676 - 1739 ), a gododd drwydded bregethu yn 1705 , a ddaeth yn weinidog y Pentre , ac a fu f. 12 Ebrill 1739 . Bu HUGH EVANS , mab Caleb Evans , yn academi Llwynllwyd dan David Price ; ym Mryste (lle'r oedd modryb iddo'n byw) y bedyddiwyd ef, ac yn 1740 dewiswyd ef yn gynorthwywr i Bernard Foskett , gweinidog eglwys Broadmead a phennaeth academi'r Bedyddwyr yno; ar f. Foskett ( 1758 ) dilynodd Hugh Evans ef yn y ddwy swydd. Bu f. 28 Mawrth 1781 . Yn gynorthwywr iddo yn 1758 , ac yn olynydd iddo yn 1781 , daeth ei fab CALEB EVANS ( 1737 - 1791 ), a aned ym Mryste 12 Tachwedd 1737 . Cyhoeddodd hwn amryw lyfrau, ond fe'i cofir yn bennaf am iddo yn 1778 ddyfod allan i amddiffyn y gwrthryfelwyr yn America yn erbyn John Wesley . Serch iddynt adael Cymru , ni chollodd y tad a'r mab mo'u cyswllt â hi. Edrydd Joshua Thomas y byddai Hugh Evans yn rheolaidd yng nghyrddau'r gymanfa Gymraeg , ac iddo bregethu ynddi 17 o weithiau — ‘pregethai bob amser yn Saesneg , ac ailadrodd ychydig yn Gymraeg .’ Am Caleb Evans , ‘nid oedd ef yn deall Cymraeg ,’ eto byddai'n troi i mewn i'r gymanfa, a phregethodd ynddi chwe gwaith. Yr oedd dylanwad y ddau ar Fedyddwyr Cymru 'n fawr, ac atynai eu hathrofa ym Mryste Gymry ifainc galluog megis William Richards ( 1749 - 1818 ), Lynn [q.v.] .

Yr oedd CALEB EVANS arall, hanner-brawd i Hugh Evans . Ysgolfeistr oedd ef, ac er y byddai'n pregethu , ni bu erioed â gofal eglwys arno. Bu'n athro yn athrofa'r Bedyddwyr yn Nhrosnant yn 1739 ; erlynwyd ef yno dan y ‘ Schism Act ,’ ond gwaredwyd ef gan y ‘ Dissenting Deputies ’ yn Llundain ( Spinther , iii, 83). Bu wedyn yn cadw ysgol am gryn 20 mlynedd ym Mryn Buga , ac wedyn ym Mryste , lle y bu f. yn 1790 ; ŵyr iddo ef oedd John Evans ( 1767 - 1827 ) o Islington [q.v.] . Aeth amryw eraill o'r Evansiaid hyn i'r weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr .

Llyfryddiaeth:

  • Yn gyffredinol, Joshua Thomas , Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry (dan ‘Dolau’ a ‘Pentre’), a'i A History of the Baptist Association in Wales , 1795 .
  • Ar Thomas Evans , T. Richards , Religious Developments in Wales, 1654–1662 , 1923 a Wales under the Indulgence — chwilier y mynegeion.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor