Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , HUGH ( ? - 1656 ), Bedyddiwr Cyffredinol . Nid oes fanylion am ei fywyd cynnar; rai blynyddoedd cyn y Rhyfel Cartref yr oedd yn brentis dilledydd yn Worcester . Symudodd i Coventry , ac aeth i fyny i Lundain i weled Jeremiah Ives , gweinidog cynulleidfa'r Old Jewry , un o brif achosion yr Arminiaid , a daeth y ddau i lawr i Gymru (o gwmpas 1646 ), yn llawn o efengyl newydd prynedigaeth gyffredinol ( Bedyddwyr digon caeth, serch hynny). Prif faes eu llafur oedd sir Faesyfed , plwyfi Llanhir , Cefnllys , Nantmel , a Llanddewi Ystradenni ; hefyd, croesent rannau uchaf Gwy i bregethu ym Mrycheiniog . Dychwelodd Ives i Loegr , ond daliai Hugh Evans i daenu ei syniadau, gyda chymorth hanner dwsin o bregethwyr eraill, hyd ei farw yn 1656 . Cryfheid y Bedyddwyr Arminaidd hyn gan Gyffes Ffydd 1651 a osodai'r ‘ Midlands ’ a Chymru o dan yr un cwlwm, a chan y cyflogau a delid i rai o'r arweinwyr fel pregethwyr teithiol o dan Ddeddf y Taeniad (bu un ohonynt, John Prosser , yn ysgolfeistr Piwritanaidd yn Nhalgarth am gyfnod). Tarfwyd hwy'n drist gan y Crynwyr bore, ac ymosododd Cwacer o'r enw John Moon yn ffyrnig iawn ar yr Arminiaid mewn pamffled; atebwyd ef yr un mor ffyrnig gan ddau o ddilynwyr Hugh Evans The Sun Outshining the Moon — ac yn hwnnw y ceir yr hanes mwyaf awdurdodedeg am fywyd a gweithgarwch Hugh Evans ac Arminiaid cynnar Cymru .

Llyfryddiaeth:

  • Thomas Shankland yn Seren Gomer , 1900 , 323-4;
  • W. J. McGlothlin , Baptist Confessions of Faith , 95-109;
  • Llawysgrif Harley yn yr Amgueddfa Brydeinig 6898, 219-32;
  • Bodl. J. Walker , c. 13 ff., 62, 66, 68;
  • Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill, 1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B (tt. 511–9 yn arg. 1847) Add. B., 512, 518.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor