EVANS, GRIFFITH, ac OAKELEY (TEULUOEDD), Tanybwlch, Maentwrog, Sir Feirionnydd.

Yr oedd teulu Tanybwlch (neu Bwlch Coed y Dyffryn), Maentwrog, yn hawlio disgyn o Gollwyn ap Tangno. Yn ôl yr achau yr oedd ROBERT AB IFAN, gŵr y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 24 Awst 1541, yn cynrychioli'r 12fed genhedlaeth. Fel eraill yng ngorllewin sir Feirionnydd yr oedd iddo gysylltiad ag Osbwrn Wyddel, gan fod ei wraig Annes yn ferch Nicholas ap Thomas ap Dafydd ab Ifan ab Einion ab Osbwrn. Gwraig ei fab, EVAN AP ROBERT, oedd Gwen, merch Humphrey ap Maredudd ap Evan ap Robert, Cesailgyfarch, Sir Gaernarfon, a'u mab hwy, ROBERT, oedd, y mae'n debyg, y cyntaf i ddefnyddio'r cyfenw Evans - ROBERT EVANS; ei wraig ef oedd Elizabeth, merch John Wynn ap Cadwaladr, Rhiwlas, a'i aer oedd EVAN EVANS, siryf Meirionnydd yn 1634, a briododd Catherine, merch Morris ap Robert Wynn; Glyn(cywarch). Derbyniwyd ROBERT EVANS, mab Evan a Catherine Evans, i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, 20 Mai 1633, yn 18 oed. Priododd ef Lowry, ferch ac aeres Ffoulk Prys (bu farw 1624), Tyddyn Du, Maentwrog - hyhi, felly, yn ŵyres i Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd - a mab iddynt oedd yr EVAN EVANS (bu farw 1680), a briododd Jonet, ferch John Vaughan, Cefn Bodig. Aer y briodas rhwng Evan Evans a Jonet (Vaughan) oedd CATHERINE, a ddaeth yn wraig ROBERT GRIFFITH (bu farw 1729), Bach y Saint, Sir Gaernarfon; gadawodd hwnnw ei gartref ym mhlwyf Ynyscynhaearn ac ymsefydlu yn Tanybwlch. Aer Robert Griffith a Catherine (Evans) oedd IFAN GRIFFITH (1688 - 1735). (Chwaer i Ifan Griffith, sef Gwen, oedd gwraig Lewis Anwyl, ficer Abergele, awdur a chyfieithydd, a brawd iddo oedd Owen Griffith (bu farw 1728), rheithor Llanfrothen.)

Aer Ifan Griffith, trwy ei wraig gyntaf, Jane, merch ac aeres Thomas Meyrick, Berthlwyd, Ffestiniog, oedd ROBERT GRIFFITH (1717 - 1750), siryf Meirionnydd yn 1742, a briododd Ann, merch Thomas Lloyd Anwyl, Hendremur, Llandecwyn, a dyfod yn dad EVAN GRIFFITH, a ddewiswyd yn siryf Meirionnydd yn 1770, ac a briododd ei gyfnither Mary, hithau'n un o Anwyliaid Hendremur, gan adael aeres, MARGARET (bu farw 1809), a briododd WILLIAM OAKELEY (1750 - 1811), mab William Oakeley, Forton, sir Stafford, offeiriad. Aer William Oakeley a Margaret (Griffith) oedd WILLIAM GRIFFITH OAKELEY (1790 - 1835), a fu farw heb etifedd ac a ddilynwyd gan un o ddisgynyddion Syr Charles Oakeley, barwnig, llywiawdr Madras, gweler D.N.B., sef WILLIAM EDWARD OAKELEY (1828 - 1912), gŵr y bu iddo lawer i'w wneuthur â chwareli llechi Blaenau Ffestiniog.

Ceir cyfeiriadau mynych yng ngwaith y beirdd at rai o aelodau teulu Tanybwlch - e.e. gan John Davies ('Siôn Dafydd Lâs'), Huw Morus, Evan Williams, John Prichard Prys, ac Ellis Rowland, Harlech. Gwelir hefyd fod cysylltiad rhyngddynt a rhai offeiriaid adnabyddus. Gellir yma nodi i Mary Anwyl (uchod), gweddw Ifan Griffith (uchod), ailbriodi a dyfod yn wraig John Griffith, rheithor Ffestiniog, ac i John Griffith, wedi ei marw hi, briodi Eleanor, merch David Morris, yntau'n rheithor Ffestiniog, a chael David Griffith, caplan carchar Biwmares, Ann, a briododd Robert Williams, meddyg, Amlwch, a JANE (bu farw 1852), a briododd Thomas Love Peacock (1785 - 1866), awdur The Misfortunes of Elphin, a gweithiau eraill - gweler D.N.B. Bu MARY ELLEN, merch T. L. a Jane Peacock, yn briod ddwywaith, yr eildro â George Meredith (1828 - 1909), nofelydd - gweler D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.