EVANS
,
FREDERICK
(‘
Ednyfed
’;
1840
-
1897
),
gweinidog y Bedyddwyr
;
g. yn
Llandybie
,
21 Ebrill 1840
, mab hynaf
William
a
Mary
Evans
, a brawd
T. V.
Evans
[q.v.]
. Dechreuodd
bregethu
yn
1856
gyda'r
Methodistiaid Wesleaidd
. Ymunodd â'r
Bedyddwyr
yn
1857
. Ar ôl cyfnod yn
academi Brynmawr
, aeth i
Goleg Pontypŵl
yn
1858
. Ordeiniwyd ef yn
Llangynidr
,
sir Frycheiniog
,
1861
, ac yno priododd
Frances
Williams
. Mudodd i'r
Unol Daleithiau
yn
1866
, ac aeth yn fugail ar yr eglwys Gymraeg yn
Scranton, Pa.
(
1867-70
). Yna troes i'r weinidogaeth
Saesneg
, a bu yn ei dro yn fugail ar
eglwys Laight Street
a'r
Eglwys Ganol
yn
Forty-second Street, Efrog Newydd
(
1870-4
),
Eglwys Fedyddiedig Gyntaf Franklin
,
Pa.
(
1874-85
),
yr hen Ddegfed Eglwys
,
Philadelphia
(
1885-92
), a'r
Eglwys Fedyddiedig Gyntaf
,
Milwaukee
(
1892-7
). Yn ystod ei fugeiliaeth yn
Franklin
treuliodd flwyddyn yng
Nghymru
yn weinidog
Salem
,
Maesteg
. Bu f. yn
Llandybie
,
21 Gorffennaf 1897
. Yr oedd yn ŵr amlwg ymysg
Cymry
'r
Unol Daleithiau
fel
pregethwr
,
darlithydd
,
beirniad
, ac
arweinydd eisteddfodol
. Bu'n
arweinydd hefyd yn yr eisteddfod genedlaethol
ac eisteddfodau eraill yn ystod ei ymweliadau mynych â
Chymru
.
Llyfryddiaeth:
-
Frederick Evans, D.D. (Ednyfed) a
memorial
, Philadelphia, 1899
(gol.
B. D. Thomas
) (Philadelphia,
1899
).
Awdur:
Athro Emeritus Syr David Emrys Evans, Ll.D., (1891-1966), Bangor