Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , GEORGE EYRE ( 1857 - 1939 ), gweinidog Undodaidd a hynafiaethydd , a mab i David Lewis Evans [q.v.] ; g. 8 Medi 1857 yn Colyton , swydd Dyfnaint . Bu yn ysgol William Thomas (‘ Gwilym Marles ’) ac mewn ysgol yn Lerpwl . Bu am rai blynyddoedd yn weinidog Eglwys y Gwaredwr yn Whitchurch , sir Amwythig , a rhoes flynyddoedd o'i oes yn ddi-dâl i'r capel Undodaidd yn Aberystwyth . Eithr hanesydd a hynafiaethydd ydoedd yn anad dim. Bu am 18 mlynedd yn swyddog ymchwil i'r comisiwn brenhinol ar ‘Ancient Monuments’ yng Nghymru a Mynwy , ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Hynafiaethol sir Gaerfyrddin am 23 mlynedd. Derbyniodd ‘ The Silver Wolf ’ — yr anrhydedd uchaf ym mudiad y Scouts . Cyhoeddodd nifer o lyfrau SaesnegHistory of Renshaw Street Chapel, Liverpool , 1887 ; Colytonia , 1898 ; Whitchurch of Long Ago , 1893 ; Vestiges of Protestant Dissent , 1897 ; The Midland Churches , 1899 ; Lampeter , 1905 ; Cardiganshire, a Personal Survey , 1903 ; Record of the Provincial Assembly of Lancashire and Cheshire , 1896 ; Antiquarian Notes , cylchgrawn preifat a gyhoeddodd o 1898 hyd 1905 o leiaf. Yr oedd ganddo hefyd nifer mawr o lyfrau mewn llawysgrif. Bu f. 9 Tachwedd 1939 yn 82 mlwydd oed a gwasgarwyd ei lwch ym mynwent Alltyplaca , Llanwenog .

Llyfryddiaeth:

  • Transactions of the Unitarian Historical Society , 1917 ff , vii, 199-203;
  • Yr Ymofynnydd , 1939 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 3188-90, 4280-4300, 7992-4, 7945-83.

Awdur:

Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965), Llanbedr-pont-Steffan