Cyhoeddwyd ganddo'r llyfrau crefyddol hyn: Prynedigaeth Neillduol neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys , 1819? ; Amdiffyniad yr Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth Neillduol ( 1820 ), sef cyfieithiad o lyfr J. Hurrion ; Pedwar Cyflwr Dyn, … 1821 , sef cyfieithiad o waith Thomas Boston (enw J. Parry sydd ar y cyfieithiad, ond tybir mai ‘ Ieuan Glan Geirionydd ’ a'i cyfieithodd ); Hymnau i'w defnyddio yn Eglwys St. Martin, y Prydnawn Sabboth cyntaf o'r Flwyddyn …; Casgliad o Salmau a Hymnau at wasanaeth y Lithwriaeth Gymraeg yn Nghaerlleon, … 1829 (dywedwyd yn Geirionydd mai ‘Welsh Lectureship’ oedd Y Lithwriaeth Gymraeg , ond ‘Welsh Liturgy’ a olygir, yn ôl pob tebyg); Y Seraph, sef casgliad o donau crefyddol ar amrywiol fesurau, … 1838 ; Y Bibl Darluniadol , 1844-47 .
Bu ‘ Ieuan Glan Geirionydd ’ yn cynorthwyo'r Parch. John Parry , Caerlleon , i olygu 'r misolyn, Goleuad Gwynedd ; yn 1830 gyrrodd lythyr at yr esgobion yn gofyn am eu nawdd ar gyhoeddi cylchgrawn Cymraeg ar gynllun y Saturday Magazine , ac yn 1833 ymddangosodd Y Gwladgarwr . Bu ‘ Ieuan ’ yn ei olygu am dair blynedd, ac oherwydd colli arian aeth i feddiant Edward Parry , Caerlleon . Enillodd yn eisteddfod Llanelwy , 1818 , ar ‘ Awdl ar farwolaeth y Dywysoges Charlotte ’; yn eisteddfod Dinbych , 1828 , ar ‘ Awdl ar Wledd Belsassar ’; ac yn eisteddfod Dinbych 1850 , am bryddest ar ‘ Yr Adgyfodiad .’
Bardd amryddawn oedd ‘ Ieuan Glan Geirionydd ,’ y bardd mwyaf amryddawn yn y ganrif ddiwethaf. Lluniodd awdlau, cywyddau, englynion, pryddest, cerddi rhydd, ac emynau. Perthynai i ysgol ryddfrydol ‘ Gwallter Mechain ,’ yr ysgol honno a ymosodai ar y mesurau caeth, ac a gychwynnodd lunio pryddestau a thelynegion. Y mae dylanwad yr ‘ysgol fynwentig’ yn Lloegr — Gray , Robert Blair , ac Edward Young — ar ei waith, a dylanwad emynwyr Lloegr fel Watts ac eraill ar ei emynau.
David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth