EVANS, EVAN (diwedd y 18fed ganrif), telynor

Enw: Evan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Yr oedd yn chwaraeydd medrus ar y delyn deir-res. Penodwyd ef yn delynor i deulu Wynnstay wedi marw John Parry, Rhiwabon. Dywed 'Twm o'r Nant' amdano: 'Ni bu gwr adnabu gân, Yr un afel a'r Hen Ifan.' Ymysg tanysgrifwyr i Musical Relicks, 1794, ceir ei enw fel 'Mr. Evan Evans, Telynwr, Wynstay.' Tybir iddo farw yn Wynnstay.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.