EVANS, EVAN (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Evan Evans
Dyddiad geni: 1758
Dyddiad marw: 1828
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn 1758 a thrigai yn y Ffos, Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Bedyddwyr oedd ei rieni, ond ymunodd ef â'r Methodistiaid yn 1775 a'i fedyddio yn Llangeitho gan Ddaniel Rowland. Dechreuodd bregethu yn 1778, ond nid esgynnodd erioed i'r rheng flaenaf. Bu'n gyfrwng i sicrhau tir i godi llawer o gapeli'r Methodistiaid ym Mrycheiniog. Dewiswyd ef gan ei sir i'w neilltuo yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Bu farw 22 Awst 1828, a chladdwyd ef yn Llanwrtyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.