EVANS, DAVID (1830 - 1910), archddiacon Llanelwy

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1910
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1830 (bedyddiwyd 24 Mehefin), mab i John a Mary Evans, yn Goitre ym mhlwyf Llanrhystyd, ac addysgwyd yn Ystrad Meurig a S. Bees. Bu'n gurad Nantglyn (1856) a Llanrhaeadr ym Mochnant (1857), ac yn gurad parhaol yn y Frongoch (y Bala), 1858, ac ym Mhontbleiddyn, 1859. O 1866 hyd 1876 bu'n rheithor Llanycil; gellir crybwyll mai efe a 'Ioan Pedr' oedd yr arholwyr a dderbyniodd T. E. Ellis i ysgol ramadeg y Bala. Yn 1876 penodwyd ef yn ficer Abergele, ac yn 1897 yn archddiacon Llanelwy. Cyhoeddodd res o'i atgofion yn Y Llan, a chasglwyd hwy'n llyfr, Adgofion, gan Henafgwr (Llanbedr-Pont-Steffan, 1904); y maent o ddiddordeb eithriadol, yn enwedig fel darlun o fywyd canolbarth Ceredigio n yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Bu farw 1 Mawrth 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.