Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , DANIEL (‘ Eos Dâr ’; 1846 - 1915 ), cerddor ; g. mewn bwthyn to gwellt o'r enw Tŷ Coch , ger Cyffordd Caerfyrddin , mab Dafydd ac Esther Evans . Symudodd y teulu i fyw i Aberdâr , a dechreuodd y mab yn 8 oed weithio yn y lofa . Argraffydd yn swyddfa'r Gwron a Seren Gomer ydoedd y tad, a magwyd y mab yng nghwmni Llew Llwyfo ac eraill o enwogion y swyddfa. Yn 11 oed ymunodd â chôr Llew Llwyfo a oedd yn perfformio ‘ Storm Tiberias ’ ( Tanymarian ), ac yn ddiweddarach aeth yn aelod o ‘ Gôr Caradog .’ Dewiswyd ef yn arweinydd y Glee Society , Aberdâr , a enillodd amryw wybrwyon. Yn 1876 symudodd i'r Maerdy , Rhondda Fach , yn beiriannydd codi glo o'r lofa . Penodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Annibynnol Siloa , a rhoddodd berfformiadau o amryw gantawdau gyda'r côr. Bu'n arweinydd côr meibion Rhondda Fach hefyd. Yr oedd yn ddatganwr da, a gelwid am ei wasanaeth ym mherfformiadau'r clasuron. Yr oedd yn ganwr rhagorol gyda'r tannau , a bu'n gwasnaethu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain fel datganwr , ac yn beirniadu yn yr eisteddfod genedlaethol . Traddododd ei ddarlithiau — ‘ Noson gyda'r Tannau ’ a ‘ Canu gyda'r Tannau ’ — ar hyd a lled y Deheudir . Bu f. 17 Mawrth 1915 a chladdwyd ef ym mynwent Maerdy .

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor , Hydref 1909 , Ebrill 1915 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn