EVANS, DANIEL (1774 - 1835), gweinidog Annibynnol

Enw: Daniel Evans
Dyddiad geni: 1774
Dyddiad marw: 1835
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Eglwyswrw, Sir Benfro, 16 Ionawr 1774, a symud i Drewyddel yn blentyn. Wedi cael mwy o ysgol na'r cyffredin, cafodd ei brentisio yn deiliwr gwlad. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn 15 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn 18 oed. Gwasnaethai'n gyson yn yr eglwysi ar y Sul, a phregethai lawer ar hyd y tai yn yr wythnos. Gwahoddwyd ef i fod yn gynorthwywr Isaac Price, Llanwrtyd, yn 1776, eithr nis ordeiniwyd yno. Yn 1779 derbyniodd alwad i fugeilio'r eglwys fechan ym Mangor, Arfon. Caled a fu ei fyd yno oherwydd fod yr achos yn wan. Llafuriodd yn galed yn ei faes ac efengylu llawer y tu allan hyd at Ddyffryn Conwy. Sefydlodd saith o eglwysi yn y cymdogaethau.

Yn 1808 symudodd i'r Mynydd-bach, Morgannwg, lle y treuliodd weddill ei oes yn llwyddiannus anarferol fel gweinidog a phregethwr. Ymgeleddodd achosion gweiniaid a chychwyn rhai newyddion. Yr oedd yn bregethwr sylweddol ei fater a gwresog ei ysbryd, yn Galfin cymedrol yn ei ddiwinyddiaeth ac ymarferol ei neges. Cadwodd yn ddisglair olyniaeth a thraddodiad y Mynyddbach. Bu farw 3 Mawrth 1835. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Hugh Jones, Tredegar, 1835.

Ysgrifennodd gofiannau i Lewis Rees, William Evans, Cwmllynfell, John Davies, Alltwen, a John Davies (Llansamlet); Lleferydd yr Asyn (Abertawe, J. Harris, 1822); Y Cawg Aur (Abertawe, E. Griffiths, 1830); Cawell y Bara Croyw (Abertawe, E. Griffiths, 1833); Ychydig Ddaioni o Nazareth (Caerfyrddin, D. Harris, 1834); Y cysgod a'r Sylwedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.