EVANS, JOHN ('Y Bardd Cocos '; 1827? - 1888), crach-brydydd digrif ym Mhorthaethwy, a grafai ei damaid yn bennaf wrth werthu cocos

Enw: John Evans
Ffugenw: Y Bardd Cocos
Dyddiad geni: 1827?
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: crach-brydydd digrif ym Mhorthaethwy, a grafai ei damaid yn bennaf wrth werthu cocos
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Tyfodd ei 'ffugenw,' yn y ffurf gyffredinol 'cocosfardd,' yn enw cyffredin ar brydyddion tebyg ym mhobman, e.e. 'Cocosfardd y De' (Elias Jones). Ni ellir yma roi dyfyniadau, ond hanfod y peth yw bod y 'bardd' bron yn gwbl anllythrennog, ac na bo na synnwyr na mydr nac odl yn ei waith. Caiff Evans ei le yn y Geiriadur hwn fel yr enghraifft ogoneddusaf o'i ddosbarth. Yn wir, prin ei fod yn 'llawn llathen,' a chafodd gwyr direidus ei ardal hwyl anarferol gydag ef. Urddasant ef yn 'Archfardd Cocysaidd Tywysogol,' gan ei arwisgo mewn côt fawr dew laes, a het â choron o 'fiwclis' amryliw o'i hamgylch; ymddangosai'n ddeddfol yn yr eisteddfod genedlaethol yn y ddiwyg hon. Hefyd, llywiasant ohebiaeth (o boptu) rhyngddo â'r frenhines Victoria, yn cynnig ei phriodi. Odid nad yw swm ei 'brydyddiaeth' wedi cynyddu'n ddirfawr yn nwylo traddodiad. Arferai ewyllyswyr da argraffu ei gynhyrchion yn daflenni, iddo eu gwerthu o ffair i ffair. Cyhoeddwyd detholiad, gyda rhagarweiniad diddorol gan 'Alaw Ceris' (Thomas Roberts) ym Mhorthaethwy yn 1923.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.