Gof oedd ‘ Cadrawd .’ Bu ddwywaith yn ystod ei ieuenctid yn America , ac yn canlyn ei alwedigaeth yn Pittsburgh lle yr oedd yn aros gyda pherthnasau. Ond yn yr ‘Hen Blwyf’ yr oedd ei fryd, ac yno y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes. Priododd Elizabeth Thomas , o ardal Caerfyrddin , a ddaethai i Langynwyd yn ysgolfeistres , ac a ddaliodd y swydd am agos i 30 mlynedd, er iddi gael wyth o blant ei hun, heb golli ond un ohonynt yn ei fabandod. Yr oedd gan ‘ Cadrawd ’ ddiddordeb ym mhob agwedd o fywyd ei fro. Casglodd i'w gartref, sef ‘ Tŷ Cynwyd ,’ yn ymyl mynwent ei blwyf, bob math o hen ddodrefn, a hen offer ffarm a chrefft, a throsglwyddwyd llawer o'r rhain i Amgueddfa Genedlaethol Cymru . Yr oedd yn ysgrifennydd toreithiog i gylchgronau a newyddiaduron , megis Cyfaill yr Aelwyd , Cymru (O.M.E.) , a phapurau Saesneg Caerdydd . Enillodd gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol yn Aberdâr yn 1885 gyda'i gasgliad helaeth o lên gwerin Morgannwg . Cyhoeddwyd y gwaith pwysig hwn yng nghyfrol cyfansoddiadau'r eisteddfod honno, ac y mae'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, y casgliad llawnaf a brintiwyd erioed o dribannau Morgannwg . Enillodd droeon wedi hyn a'r tro olaf am draethawd ar enwau lleol Cymraeg yn siroedd y gororau . Cafodd fedal aur yr eisteddfod genedlaethol hefyd. Deuddydd cyn ei daro'n wael yn haf 1918 anfonodd i fewn ei feirniadaeth ar draethawd ar hanes dyffryn Nedd ( D. Rhys Phillips oedd yn fuddugol, a'r traethawd hwn oedd cnewyllyn ei lyfr ar y pwnc).
Fel y dengys papurau ‘ Cadrawd ,’ sydd heddiw yn Llyfrgell Dinas Caerdydd , bu ef yn gohebu â llawer o ysgolheigion ei ddydd, gan gynnwys Syr John Rhŷs , a bu'n aros gyda Syr Joseph Bradney pan oedd hwnnw'n llafurio ar hanes sir Fynwy . Yn 1910 cyhoeddwyd Hen Gwndidau, Carolau a Chywyddau Morgannwg , a olygwyd gan L. J. Hopkin-James a ‘ Cadrawd .’ Yn 1913 cyhoeddwyd ei gyfrol, Gwaith Iolo Morganwg , yn ‘ Cyfres y Fil .’
Bu ynglŷn ag amryw gymdeithasau Cymraeg , megis yr Orsedd , y Cymmrodorion , a'r Cambrian Archaeological Association . Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymrodorion Tir Iarll , a sefydlwyd yn gynnar yn y ganrif hon, ac ef a luniodd ei bathodyn . Adeg diwygiad 1904-5 cyfansoddodd rai emynau . Fe'i claddwyd yn Llangynwyd yn ymyl bedd Samuel Jones , Brynllywarch . Y mae llawer o'i lyfrau yn Llyfrgell Dinas Caerdydd , ac eraill yn llyfrgell Coleg Abertawe . Blwyddyn wedi ei farw, rhoes y Llywodraeth deyrnged i'w wasanaeth trwy roi pensiwn gwladol o £50 i'w weddw, a fu fyw i'w dderbyn am 10 mlynedd.
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban