Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , CHRISTMAS ( 1766 - 1838 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru ; g. yn yr Esgaerwen , ym mhlwyf Llandysul , sir Aberteifi , ddydd Nadolig 1766 , mab Samuel Evans , crydd , a'i wraig Joanna . Prentis plwyf , gwas fferm yn amaethdai'r fro , yn eu plith cartref yr enwog David Davis , Castellhywel — dyna ei hanes yn llanc. Ymuno ag eglwys D. Davis pan oedd oddeutu 18 oed, dysgu darllen Cymraeg , cael mynd tros dro i ysgol ei feistr a dysgu rhywfaint o Saesneg a Lladin , dechrau pregethu heb fawr o raen ar ei waith yng nghanol oerni deallol Arminiaeth — hyn a fu ei ran hyd onid oedd yn rhyw 21 oed. Yn awr, ymaelododd yn eglwys Bedyddwyr Aberduar , a dycnodd arni gyda'i bregethu mewn awyrgylch mwy tanbaid-ddiwygiadol. Yng nghymanfa Maesyberllan , 1798 , darbwyllwyd ef gan wŷr o'r Gogledd i ddychwelyd gyda hwy i efengylu fel ‘ pregethwr teithiol ’ ymhlith Bedyddwyr Llŷn . Ordeiniwyd ef yn haf 1789 ; priododd Catherine Jones yn eglwys Bryncroes , 23 Hydref 1789 ; cerddodd, marchogodd, pregethodd yn ei blwyf eang, a'r effeithiau yn rhyfeddol. Wrth draed Robert Roberts , Clynnog , pregethwr aruthraf pulpud Cymru , ryw brynhawn Sul, cafodd olwg a gafael newydd ar grefft pregethu , a chanfu yn y ddrama ddefnydd y pregethu hwnnw a weddai i'w ddawn arbennig ef. Robert Roberts a roes iddo ‘allwedd y lefel.’ Ar ddydd Nadolig 1791 marchogai o Lŷn i Fôn , a Chatrin wrth ei sgil, i gymryd gofal Bedyddwyr Môn yn eu pencadlys yn Ebenezer , Llangefni , a byw yn y Tŷ Capel — tŷ a chapel y Cildwrn . Fel ‘ Esgob Môn ’ yr hoffai synio amdano ei hun; gadawodd ei ôl ar hanes Bedyddwyr Môn , rhoes ruddin yn hunanymwybod yr enwad yn yr ynys, a'i fynych deithio rhwng De a Gogledd yn bachu Môn wrth Fedyddwyr Cymru gyfan. O gymanfa'r Felinfoel ( 1794 ) ymlaen, dichon mai efe oedd pregethwr mwyaf poblogaidd y Bedyddwyr . Ar y cychwyn, bu'n cynorthwyo J. R. Jones a'i fudiad Sandemanaidd yn eiddgar, ond wedi i'r gŵr hwnnw ffurfio ei enwad ei hun graddol gilio oddi wrtho a wnaeth Christmas Evans . Ailgychwynnwyd cymanfa'r Gogledd ym Môn yn 1802 , ac un o orchestion Christmas Evans oedd gwneuthur y gymanfa honno yn ganolfan pregethu mawr. Gadawodd Christmas Evans Fôn yn 1826 , a gweinidogaethodd wedyn yng Nghaerffili ( 1826-8 ), Caerdydd ( 1828-32 ), Caernarfon ( 1832-8 ). Ar ei deithiau casglodd gannoedd o bunnau i ddiddyledu ei gapeli . Cynrychiolodd ei enwad yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, a chyhoeddi ‘o gylch ugain o lyfrau chwecheiniog ac un swllt’ (chwedl yntau), a llyfr ar Teetotaliaeth . Gwyddai ddigon o Saesneg i bregethu yn yr iaith honno ac i ddarllen esboniadau, llyfrau diwinyddol, a'r tadau Piwritanaidd. Yr oedd ganddo rywfaint o Hebraeg a digon o Roeg i ffeindio ei ffordd trwy eiriadur Parkhurst a rhywbeth yn debyg oedd ei Ladin . Ceir swm o gyfeiriadau hanesyddol yn ei bregethau. Yr oedd yn hoff o farddoniaeth Gymraeg , o dreio ei law ar englyn, a chyfieithu Shakespeare a Milton a Chowper a Young , ac o ystumio ei iaith ar ddull W. O. Pughe . Peth rhyfeddol oedd ei haelioni at Gymdeithas y Beiblau a'r achos cenhadol ac athrofa y Fenni o'i gyflog o £17 y flwyddyn. Ei ddawn bregethwrol a roes iddo enwogrwydd. Yr oedd yn un o dri chedyrn pulpud Cymru yn oes aur ein pregethu. Ei gorff anferth, afrosgo, ond esgobaidd; ei deimladau cryfion, ŵr y tanau mawr ag ydoedd; ei gof enbyd; yn anad dim, ei ddychymyg — dyna beth o'i gyfalaf naturiol. Nid hap a digwydd yn unig oedd ei ddawn bregethwrol, eithr gwyddai ddamcaniaethau pregethwriaeth. Yr oedd ynddo athrylith i ganfod personau, a phethau, a phriodoleddau, a'u cyflwyno i'w wrandawyr ar ddull darlun a phanorama a drama. Efe oedd pen alegorydd pulpud ei ddydd. Dramâu yw ei bregethau enwocaf, ‘comedies’ a ‘tragedies’ (chwedl Brutus ), a Christmas ei hun oedd y ‘playwright’ a'r actor; rhaid cofio bod y dull hwn o bregethu yn taro i'r dim i werin ei oes. Ei berygl oedd gadael i beiriant darluniadol ei ddychymyg ddianc oddi arno a mynd i ysbrydoli pob un o fanion ei ddarlun, ond fe lwyddodd yn amlach nag y methodd. Mae ei gyfamodau ysgrifenedig yn brawf o'i dduwioldeb. Ar daith i'r De, bu f. yn nhŷ Daniel Davies (‘ Y Dyn Dall ’) [q.v.] , yn Abertawe , 19 Gorffennaf 1838 , a'i gladdu wrth ystlys capel Bethesda .

Llyfryddiaeth:

  • Cofiant, neu, Hanes bywyd y diweddar Barch. Christmas Evans , 1839 (gan W. Morgan , Caergybi), 1839 ;
  • Gweithiau y parch. Christmas Evans , Caernarfon, 1898 , tair cyfrol dan olygiaeth Owen Davies (Gwenlyn Evans, Caernarfon, 1898 );
  • Christmas Evans , Llandysul, 1938 gan J. T. Jones (Gwasg Gorner, 1938 );
  • Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru , 1938 , ysgrif arno gan M. B. Owen ;
  • Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru , 1934 , ‘Dawn yr hen bregethwyr, gyda sylw arbennig ar Christmas Evans,’ gan J. T. Jones ;
  • D. Rhys Stephen , Memoirs of the late Christmas Evans, of Wales , Llundain, 1847 (Llundain, 1847 ).

Awdur:

John Thomas Jones, M.A., Rhiwabon