Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , ALCWYN CARYNI ( 1828 - 1902 ), hynafiaethydd ; g. 14 Mai 1828 , mab i Evan Donard Evans ( 1796 - 1877 ), ysgolfeistr a gadwai ysgol breifat yn Wood Street ac, ar ôl 1831 , yn hen dy-cwrdd y Crynwyr yn Lammas Street , Caerfyrddin . Ei wraig gyntaf oedd Elizabeth Amelia Rees (bu f. 1867 ), gweddw tafarnwr y Castle yn Priory Street , Caerfyrddin , a merch i John Morgan , a'i ail wraig oedd Mary (bu f. 1884 ), merch i William Thomas , rhaffwr o Lanymddyfri . Ysgolfeistr ydoedd fel ei dad, ac am oddeutu 40 mlynedd cadwai ysgol ganolradd , ‘ The Carmarthen Academy ,’ yn Heol Awst (ar ôl dydd ei dad, yn hen dy-cwrdd y Crynwyr ).

Yr oedd yn hynafiaethydd diwyd a chasglodd achau hen deuluoedd De Cymru , gan ychwanegu atynt yn aml a'u dwyn i lawr hyd at ei gyfnod ef ei hun. Casglodd hefyd gyfoeth o ddefnyddiau hanes tref a sir Gaerfyrddin .

Cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad mawr o'i weithiau, cyfrolau trwchus mewn ysgrifen hardd ac iddynt fynegai tra defnyddiol ( NLW MSS 12356-88 ). Gellir gweld NLW MSS 12359-12361D ar Ddrych Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Enillodd wobr yr eisteddfod genedlaethol yn 1867 am draethawd ar hanes Caerfyrddin (NLW MS 12369B) . Yn 1878 golygodd Royal Charters … of the Town and County of Carmarthen , gan J. R. Daniel-Tyssen .

Undodwr , ac Undebydd Rhyddfrydol , ydoedd Alcwyn Evans . Yr oedd yn aelod o'r Cambrian Archaeological Association a'r Carmarthen Literary and Scientific Institution . Am flynyddoedd bu'n gyfrifol am baratoi llyfrau trethi tref Caerfyrddin . Bu f. 11 Mawrth 1902 .

Llyfryddiaeth:

  • Carmarthen Journal , 14 Mawrth 1902 ;
  • South Wales Daily News , 12 Mawrth 1902 ;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 12359.

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth