EVANS, CADWALADR (1664 - 1745), Crynwr Cymreig yn Pennsylvania;

Enw: Cadwaladr Evans
Dyddiad geni: 1664
Dyddiad marw: 1745
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr Cymreig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Frongoch, plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd, o deulu yn hawlio eu bod yn disgyn o Marchweithian. Ymunodd â'r Crynwyr, ymfudodd i Gwynedd, Pennsylvania, a derbyniwyd ef i weinidogaeth y Crynwyr. Bu farw yn 1745. Cofir amdano hefyd oherwydd fod Abraham Lincoln yn or-orŵyr iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.