Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ELSTAN GLODRYDD , ‘tad’ y pumed o lwythau brenhinol Cymru . Er na wyddys odid ddim amdano, fe dâl ei enw'n bennawd i grynodeb (a dynnwyd o Lloyd , Hist. W. ) o hanes arglwyddi diweddarach ‘Rhwng Gŵy a Hafren ,’ cantrefi Maelienydd ac Elfael — gw. yr ach ar t. 770 gan Lloyd . Yr oedd gan Elstan ( Hist. W. , 406) fab, CADWGAN , a chan hwnnw dri mab. Un ohonynt oedd IDNERTH , yntau â thri mab; o'r rheini cafodd MADOG (bu f. 1140 ) bump o feibion. Lladdwyd dau o'r rhain, HYWEL a CADWGAN , yn 1142 , ac un arall, Maredudd , yn 1146 . Rhannodd y ddau arall y tiroedd; teyrnasai CADWALLON (bu f. 1179 ) ar Faelienydd , ac EINION (bu f. 1177 ) ar Elfael . Anghytunent, ac yn 1160 cydiodd Cadwallon yn Einion a'i draddodi i Owain Gwynedd — traddododd Owain ef i'r brenin Harri II , ond llwyddodd Einion i ddianc o'r carchar. Yn 1163 safodd y ddau gyda'i gilydd dan faner Owain Gwynedd yng Nghorwen ; yn ddiweddarach yr oeddynt ill dau yng ngosgordd yr Arglwydd Rhys , ac ill dau'n noddwyr i fynachlog Cwm Hir pan ailsefydlwyd honno yn 1176 . O dri mab Cadwallon , cymerodd MAELGWN y groes yn 1188 ; bu f. yn 1197 , a'i fab yntau, CADWALLON , yn 1234 . Dau fab a fu i Einion ; dywedir i'r hynaf, Einion (ab Einion Clud) , a gyfenwid yn gyffredin ‘ Einion o'r Porth ,’ briodi merch i'r arglwydd Rhys . Cymerodd yntau'r groes yn 1188 ; bu f. yn 1191 .

Ers tro mawr yr oedd teulu Mortimer [q.v.] wedi bod yn ymwthio i diroedd tylwyth Elstan , ac yn y 13eg a'r 14eg g. llwyddasant yn y diwedd i'w meddiannu'n llwyr.

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Lloyd , A History of Wales , yn arbennig 406, 477, 516, 545, 563, 567, 585, 770,

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor