ELLIS, WILLIAM ('Gwilym ab Elis '; 1752 - 1810), emynydd a baledwr, o'r Bala;

Enw: William Ellis
Ffugenw: Gwilym ab Elis
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1810
Rhiant: Jane William
Rhiant: Ellis William
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd a baledwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn Tynant, plwyf Llanycil, mab Ellis a Jane William. Ellen oedd enw'i wraig, a thrigent yn nhreddegwm Ismynydd yn 1780; ganwyd pedwar o blant iddynt rhwng 1780 a 1790. Bu farw Rhagfyr 1810, a'i gladdu yn Llanycil. Ef a gyhoeddodd Ychydig o Hymnau, etc. (d.d.) o waith Edward Parry, Llansannan, William Evans o'r Bala, ac eraill. Argraffwyd y llyfr 'tros ddyn tlawd a elwir William Ellis.' Y mae nifer o emynau o'i eiddo yn ail ran y llyfr. Bernir mai ef yw'r ' Gwilim ab Elis ' a gyhoeddodd gasgliad o emynau yn Nhrefeca yn 1786, Ychydig o Hymnau a Chaniadau Newyddion, etc. Y mae 25 o emynau yn y casgliad, ac un ohonynt yw'r emyn adnabyddus, ' Pan fu fy Arglwydd mawr yn llawr y bedd.' Ceir carol a cherdd yn y casgliad uchod, a nodir dwy faled o'i eiddo, c. 1790, yn rhestr J. H. Davies.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.