ELLI, sant (fl. yn y 6ed ganrif).

Enw: Elli
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Yr unig frynhonnell i draddodiad Elli yw 'Buchedd' Cadog a gyfansoddwyd tua diwedd yr 11eg ganrif. Pan oedd yn teithio mewn gwledydd tramor, dywedir i Gadog Sant lanio ar nifer o ynysoedd a elwid Ynysoedd Grimbul, ac i frenhines y diriogaeth honno ymbil arno ei rhyddhau hi o felltith ei amhlentyndod. Eiriolodd yntau ar ei rhan, ac ymhen amser ganwyd iddi fachgen, Elli, a ymddiriedwyd gan ei fam i ofal Cadog. Dygodd ef y baban Elli gydag ef i Lancarfan, gan ei feithrin a'i hyfforddi gyda'r gofal mwyaf. Dywed y 'Fuchedd' ymhellach mai Elli a ddewiswyd yn abad yn lle Cadog pan oedd hwnnw'n paratoi ar gyfer ymadael i Benevento. Arferai Elli ymweld â'i hen athro bob blwyddyn hyd at farw Cadog. Yn yr atodiadau amrywiol a ychwanegwyd at 'Fuchedd' Cadog ceir sôn am yr ' Atrium Album ' lle y trigai Elli, a hefyd hanes sefydlu mynachlog gan Elli mewn lle dienw, mynachlog a oedd i fod hyd byth yn ddarostyngedig i dylwyth ('familia') Cadog. Cysegrwyd dwy eglwys i Elli, sef Llanelli yn Sir Gaerfyrddin a Llanelli yn sir Frycheiniog. Cedwir ei ŵyl ar 23 Ionawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.