ELLIS, ROBERT (1817 - 1893), cerddor

Enw: Robert Ellis
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Rhuddlan, Sir y Fflint. Yn 17 oed aeth i Fanceinion, a llafuriodd yn ddyfal i godi safon cerddoriaeth grefyddol gyda'r Methodistiaid. Ef yw awdur y dôn ' Revel ' 8.7.3. a gyfansoddodd yn 1855, ac a ymddangosodd yn Llyfr Tonau Cynulleidfaol, 1859. Ceir tôn o'r enw ' Eliza ' o'i waith yn Y Salmydd Cenedlaethol, 1846. Bu farw 27 Gorffennaf 1893, a chladdwyd ef ym Manceinion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.