Yn anad dim, gŵr amryddawn ydoedd. Pregethwr esboniadol, athrawiaethol, defnyddiol ydoedd, yn gryn feistr ar Gymraeg pulpudol ei ddydd, yn parablu yn glir ac yn groyw, a'i ynganiad yn llithrig a naturiol. Yr oedd yn cyfrif mewn cylchoedd barddonol ac eisteddfodol. Ei awdl, ‘ Yr Adgyfodiad ,’ yng nghystadleuaeth Gwrwst (yn Seren Gomer 1849 ), a'i dug i sylw fel bardd ac a roes iddo ei enw barddonol. ‘ Cywydd y Berwyn ,’ efallai, yw ei waith barddonol mwyaf gorchestol, ac y mae swyn yn ei ‘ Awdl ar Ddistawrwydd .’ Bu iddo fri cenedlaethol yn yr eisteddfod fel beirniad (barddoniaeth gan amlaf), arweinydd , ac areithydd . Yn Tafol y Beirdd , 1853 , trinia'r pedwar-mesur-ar-hugain; golygodd ail argraffiad Gorchestion Beirdd Cymru o gasgliad Rhys Jones , ac argraffiad Isaac Foulkes o Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym . Efe hefyd a gynullodd Blodau Arfon ( ‘ Dewi Wyn ’ ), a golygu Geiriadur y Bardd . Ymhyfrydai mewn geiriaduriaeth a chynhyrchodd Geiriadur Cymreig Cymraeg , 1868 . Cyhoeddwyd Barddoniaeth Cynddelw dan olygiaeth ‘ Ioan Arfon ’ gan H. Humphreys , Caernarfon , yn 1877 . Yr oedd iddo ddiddordeb mewn pob math o hynafiaethau — cyhoeddodd Manion Hynafiaethol , 1873 , a chyfrannodd ddeunaw pennod i Hanes y Brytaniaid a'r Cymry ( ‘ Gweirydd ab Rhys ’ ). Yn herwydd ei ddawn siarad naturiol, ei ffraethineb, a'i wybodaeth eang, yr oedd yn un o ddarlithwyr enwog ei gyfnod, onid yr enwocaf oll, ac, er bod ganddo gyflawnder o destunau, llenyddiaeth a hanes Cymru oedd ei hoff faes, a'i ddarlithiau wedi eu bachu wrth ei ddawn chwilota. Bu'n gymwynasydd i Wasg ei enwad. Yr oedd yn olygydd Y Tyst Apostolaidd , 1846-50 ; Y Tyst , 1851 ; Y Greal , 1852-3 , a pharhaodd i olygu barddoniaeth Y Greal hyd ddiwedd ei oes; golygodd hefyd golofn farddonol Seren Gomer , 1854-9 . Cofiannau John Williams ( Yr Oraclau Bywiol ) a Dr. Ellis Evans , Cefnmawr — efe biau'r rhain. Parhaodd ei Esboniad ar y Testament Newydd i ymddangos yn rhannau o 1855 hyd ei farw. Cyfrannodd ysgrifau i Eirlyfr Bywgraffyddol ( Isaac Foulkes ) a Gwyddoniadur Cymreig Dinbych , heb sôn am y cyfnodolion. Ni bu'n ddihidio o ddadleuon diwinyddol ei ddydd, yn enwedig y dadleuon Macleanaidd a'r dadleuon Campbelaidd . Sonnir yn fynych am harddwch ei gorff, cryfder ei gof, nwyfiant a ffraethineb ei dymheredd, ac i'w gyfoeswyr yr oedd ei athrylith amlweddog a chyfoeth ei wybodaeth yn dra rhyfeddol.
John Thomas Jones, M.A., Rhiwabon