ELLIS
,
ROBERT
(
1808
-
1881
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g.
12 Rhagfyr 1808
yn
Celyn Isaf
,
Llanddeiniolen
, yn fab i
Ellis
Evans
a'i wraig
Jane
Williams
; bu'n rhaid i'r tad ffoi i
Ferthyr Tydfil
ar adeg helynt
cau comin Llanddeiniolen
(
1809
), ond dychwelodd i fyw i'r
Garnedd
, y ‘tŷ unnos’ a godasai ar y comin. Yn 18 oed, aeth
Robert
Ellis
i weithio yn
chwarel Cae-braich-y-cafn
, ond tua'r 20 symudodd i
chwarel Dinorwig
, ac yn
1829
ymunodd ag eglwys
Ysgoldy
. Yn
1832
aeth am bum mis i ysgol
John
Hughes
(
1796
-
1860
) [q.v.]
yn
Wrecsam
; yna, chwiliodd am waith yn
Lerpwl
, ond methodd, a cherddodd adre. Dechreuodd
bregethu
yn
1834
; yn
1837
agorodd siop
yng
Nghlwt-y-bont
. Ordeiniwyd ef yn
1842
, ac yn yr un flwyddyn priododd â
Jane
Evans
o
Harlech
; cawsant chwech o blant. Ar wahân i ambell daith bregethu, yng nghylch
Arfon
y llafuriodd ar hyd ei oes. Rhoes ei fasnach (nad oedd wedi dwyn fawr elw iddo) i fyny yn
1868
, ac aeth ef a'i wraig i fyw i
dŷ capel Ysgoldy
— ‘
Robert
Ellis
,
Ysgoldy
’ yw'r enw cyffredin arno; o hynny hyd
1879
yr oedd yn weinidog swyddogol
Ysgoldy
a
Bryn'refail
. Bu f.
24 Medi 1881
, a chladdwyd yng
Nghlwt-y-bont
. Yr oedd naws
hanesydd
ynddo, a rhoes ar glawr gryn swm o hanes Methodistiaeth
Arfon
.
Llyfryddiaeth:
-
J. Owen Jones
,
Cofiant a Gweithiau Robert Ellis, Ysgoldy,
Arfon
, Caernarfon, 1883
,
1883
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor