ELLIS
,
ROBERT
(
1805
-
1872
),
clochydd Llanllyfni
(1829-72);
mab
Ellis
ac
Ann
Dafydd
,
Penbryn Bach
,
Llanllyfni
. Bedyddiwyd yn eglwys Llanllyfni, 20 Hydref 1805. Priododd
Catherine
Williams
,
Llandwrog
, yn
1830
, a bu iddynt saith o blant. Yr oedd yn
brydydd
yn ogystal â
chlochydd
, ac adwaenid ef wrth yr enw ‘
Llyfnwy
.’ Cyhoeddodd
Lloffion Awen Llyfnwy
(
1852
), sef casgliad o'i gerddi, ond eddyf yn ei ragymadrodd nad yw'n ‘ymestyn at ddim goruchafiaeth,’ gan na chafodd un chwarter o ysgol erioed.
Cyfansoddodd laweroedd o garolau
, ac yn arbennig ar gyfer y plygain blynyddol yn eglwys y plwyf. Canai yn y dull carolaidd cynganeddol, ac yntau'n un o'r rhai diwethaf i ymarfer y fath ddull. Cyhoeddwyd casgliad o'i garolau ar ôl ei farw, sef
Carolau Awen Llyfnwy
. Yr oedd yn
englynwr
medrus, a gwelir llawer o'i englynion ar feddfeini
Llanllyfni
a'r cylch. Ni chyfyngid ei ddiddordeb i brydyddiaeth, canys yr oedd hefyd yn
gerddor
; ef a
arweiniai gerddorfa
eglwys
Llanllyfni
. Bu f.
14 Ebrill 1872
, wedi gwasnaethu mewn 2,556 o angladdau.
Llyfryddiaeth:
-
W. R. Ambrose
,
Hynafiaethau, cofiannau, a hanes presennol
Nant Nantlle y traethawd buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol
Pen-y-groes, Llun y Pasg, 1871
, 1872
,
1872, 84-5
;
-
Enwogion Sir Gaernarfon
, 1922
, 65-6;
-
Y Llenor
, ix, 1, 47-55;
-
T. Parry
,
Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
, 1944
,
1944
, 234.
-
Adysgrifau'r Esgob yn Ll.G.C.
Awdur:
Y Canon Gwynfryn Richards, M.A., Conwy / Llandudno