ELLIS
,
RICHARD
(
1784
-
1824
),
swyddog cyllidfa a cherddor
;
g.
24 Ionawr 1784
, mab
Lewis
Ellis
[q.v.]
,
Llansadwrn
,
organydd
eglwys Biwmares
. Yr oedd yn un o gerddorion gorau'r cyfnod. Yn
1800
penodwyd ef yn olynydd i'w dad fel
organydd eglwys Biwmares
, a llanwodd y swydd hyd ei farwolaeth. Yn
1821
gorffennodd gasglu ‘
Llyfr Tonau a Salmau Cymreig
’ at wasanaeth yr
Eglwys yng Nghymru
, a chafodd ganiatâd
esgob Bangor
i'w gyhoeddi, ond ni wyddys beth a ddaeth o'r casgliad.
Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol
hefyd. Bu f.
10 Rhagfyr 1824
, a chladdwyd ef ym mynwent
Biwmares
.
Llyfryddiaeth:
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Cymru
, ii, 597;
-
Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion
Cymreig o 1700 i 1900
, Cymdeithas yr Eisteddfod
Genedlaethol, 1908
;
-
Y Cerddor
,
Mai 1890
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn