ELLIS, RICHARD (1775 - 1855), crydd a cherddor

Enw: Richard Ellis
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: crydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Nolgellau, 1775. Dysgwyd cerddoriaeth iddo gan John Williams ('Ioan Rhagfyr'), ac ar ei farwolaeth ef penodwyd Richard Ellis yn olynydd iddo fel arweinydd canu cyflogedig yn eglwys blwyfol Dolgellau. Dywedir iddo gasglu salm-donau, a'u cyhoeddi yn llyfr bychan. Cyfansoddodd lawer o donau a rhai anthemau. Nid oes gasgliad o donau nad yw y dôn ' Hyder ' 8.7.4. ynddo; cyfansoddodd Richard Ellis hon yn 1824. Bu farw 11 Chwefror 1855, a chladdwyd ef ym mynwent hen eglwys Dolgellau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.